BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 1 Ebrill, 2005, 19:08 GMT 20:08 UK
Terfel yn y cyngerdd cynta
Y Galeri
Cafodd Y Galeri yng Nghaernarfon ei agor yn swyddogol nos Wener
Cafodd canolfan gelfyddydol fwya newydd Cymru ei hagor nos Wener a Bryn Terfel a Catrin Finch yn y cyngerdd cynta.

Cyngerdd nos Wener yn y Galeri yng Nghaernarfon oedd yn cychwyn penwythnos o ddathlu.

Mae'r ganolfan yn Noc Fictoria wedi costio £7.5m a Terfel yw'r noddwr.

"Mae'n anodd meddwl am adeilad yng Nghymru mewn lleoliad gwell," meddai Terfel.

"Bydd y Galeri yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddiwylliant a bywyd artistig yr ardal gan ddenu nid yn unig brif artistiaid Cymru ond perfformwyr rhyngwladol.

"Y syniad tu ôl i'r Galeri ydi cynnig cymysgedd arbennig o greadigrwydd artistig a menter busnes diwylliannol."

Theatr a chynhadledd

Yn dilyn y cyngerdd agoriadol fe fydd 'na benwythnos o weithdai sy'n rhad ac am ddim.

Plant ardal Caernarfon yn perfformio yn y cyngerdd agoriadol
Plant ardal Caernarfon yn perfformio yn y cyngerdd agoriadol

Ers dros 10 mlynedd mae'r gwaith cynllunio ac adeiladu wedi bod yn mynd yn ei flaen.

Yn y Galeri mae theatr â 400 o seddi, canolfan gelf, caffi a bar, ystafelloedd perfformio ac ymarfer ac ystafelloedd cynadledda.

Dros y penwythnos hefyd fe fydd 'na gyngerdd gan gerddorfa siambr â gweithdai dawnsio salsa a chwarae'r drwm.

Y bardd Benjamin Zephaniah fydd yn cloi'r penwythnos.

"Mae'r agoriad yn bwysig i Gaernarfon, yn nodi datblygiad allweddol i ddiwylliant ac i'r diwydiant creadigol yng ngogledd Cymru," meddai Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Cwmni Tref Caernarfon.

"... rydym yn gobeithio y bydd y Galeri yn ysbrydoliaeth i ddatblygu celfyddyd yn yr ardal, datblygu sgiliau a hyder yn y gymuned a chyflwyno rhaglen o adloniant."

Cychwynnodd y gwaith adeiladu yn 2003, saith mlynedd ar ôl y syniad gwreiddiol.




HEFYD:
Agor canolfan gelfyddydol
07 Maw 05 |  Newyddion
Dechrau adeiladu canolfan greadigol
01 Medi 03 |  Newyddion
Adfywio doc y dre
17 Maw 03 |  Newyddion
Doc Fictoria: Dau ddegawd yn rhy hwyr
14 Medi 02 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^