Tra'n ymweld â Phatagonia mae Prif Weinidog y Cynulliad wedi pwysleisio fod y cysylltiad rhwng Cymru a'r Wladfa yn parhau'n bwysig.
Fe wnaeth Rhodri Morgan ei sylwadau wrth annerch Eisteddfod y Wladfa a dywedodd fod y cynllun i anfon athrawon Cymraeg i Batagonia yn arwydd o bwysigrwydd y berthynas,.
Ond wrth i'r Gymraeg adennill tir yn araf mae yna alw yn y Wladfa am fwy o gymorth.
Dywed y gŵr sy'n gyfrifol am fonitro'r rhaglen dysgu Cymraeg yno fod rhaid ystyried a oes angen mwy o arian gan fod y cynllun wedi ei ehangu cymaint ers ei sefydlu yn 1997.
Wrth gael cinio gyda Rhodri Morgan roedd cyfle i'r athrawon o Gymru drafod llwyddiant y cynllun sy'n cael ei gyllido gan Lywodraeth y Cynulliad a sydd wedi eu galluogi nhw i fynd i Batagonia.
'Galw aruthrol'
Ond dywedodd yr Athro Robert Owen Jones, arolygydd y cynllun dysgu Cymraeg, fod rhaid ystyried a oes angen arian ychwanegol.
"Mae'r galw mor aruthrol a dydyn ni ddim yn gallu (darparu) ar y cyllid sydd ganddon ni meddai'r Athro Robert Owen Jones, arolygydd y cynllun dysgu Cymraeg.
Mae eisteddfod yn cael ei chynnal yn Chubut ym Mhatagonia ers yr 1880au
|
"Mae angen dysgu llawer mwy dwys ac mae hynny'n golygu mwy o oriau."
Prin iawn yw'r ddarpariaeth yn yr ysgolion ac mae ymgyrchwyr lleol wedi ceisio annog Llywodraeth Patagonia i gyllido cyfundrefn addysg Gymraeg.
Hefyd maen nhw wedi gofyn i Lywodraeth y Cynulliad am ragor o gefnogaeth.
"Swyddogaeth llywodraeth talaith Chubut yw hi i ddarparu gwasanaethau addysg yn y dalaith," meddai Prif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan.
"Ond wrth gwrs os ydyn nhw eisiau help ganddon ni o ran adnoddau arbenigol fel athrawon ac athrawesau ac fel y llyfrau, tapiau a'r fideos yr ydyn ni wedi dod â nhw gyda ni i o Gyngor Llyfrau Cymru yna wrth gwrs rydyn ni'n mynd i fod yn barod i ymateb."
Yn ystod ymweliad pedwar diwrnod â'r Ariannin mae Mr Morgan wedi bod yn cwrdd â rhai o ddisgynyddion y Cymry cyntaf i ymfudo i'r Wladfa ac ymunodd â dosbarth Cymraeg.
Arddangosfa
Hefyd mae wedi bod yn hybu nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu hallforio o Gymru.
Dydd Iau bu mewn achlysur yn Buenos Aires i gofnodi 140 mlynedd ers i fintai o Gymry sefydlu'r Wladfa yno.
Aeth i arddangosfa lle mae gwaith 40 o ddylunwyr a chrefftwyr Cymreig yn cael ei arddangos.
Dydd Gwener fe fu'n cwrdd â dirprwy weinidog Yr Ariannin, Daniel Scioli, cyn teithio i Drelew lle bu'n cyfarfod y maer a'r llywodraethwr.
Aeth i ysgol feithrin Gymraeg gan gyflwyno 1,000 o lyfrau i ganolfan adnoddau Cymraeg ar ran Cyngor Llyfrau Cymru.
Hefyd aeth i gapel gafodd ei adnewyddu gan yr awdurdod lleol a dychwelyd i'r Eisteddfod ar gyfer seremoni'r cadeirio.