BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Mawrth, 2005, 10:25 GMT
Protest ar y copa yn erbyn cau ysgolion
Protest Mynyddcerrig Sir Gaerfyrddin
Roedd degau o blant a rhieni wedi cerdded i'r copa i ddangos eu gwrthwynebiad
Mae rhieni a disgyblion tair ysgol sy'n wynebu cael eu cau yn Sir Gaerfyrddin wedi cynnal gorymdaith fel protest i un o gopaon ucha'r sir.

Roedd disgyblion ysgolion Mynyddcerrig, Bancffosfelen a Llangyndeyrn yn cerdded i gopa Mynyddcerrig ddydd Gwener.

Mae'r cyngor sir yn bwriadu cau hyd at 32 o ysgolion fel rhan o ad-drefnu addysg yn y sir.

Yn ôl y cyngor fe fydd £110m yn cael ei fuddsoddi er mwyn cael gwared ar yr hen adeiladau a gosod adnoddau newydd.

Dywedodd yr ymgyrchwyr o'r tair ysgol nad ydy'r awdurdod wedi dweud yn swyddogol wrthyn nhw y bydd yr ysgolion yn cau, ond maen nhw'n cael ar ddeall y bydd y plant yn cael eu hanfon i ysgol ym Mhontyberem sydd â llefydd gwag.

Dywedodd Matt Dicks, sydd ag un disgybl yn Mynyddcerrig ac un arall yn ymuno ar ôl y Pasg, y byddai cau'r ysgol yn drychinebus.

Ysgolion ardal

"Fe fydd ein plant yn cael eu cludo ar fysiau i ochr arall y cwm (Gwendraeth)," meddai.

Ychwanegodd Suzanne Morgan, mam i un o'r disgyblion: "Mae'r ysgol yn rhan ganolog o fywyd y pentref a dim ond drwy'r ysgol y mae nifer o rieni yn cwrdd.

"Rydym yn gorymdeithio i ddangos cryfder a'r cam cyntaf mewn brwydr hir os oes angen."

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod nifer o adeiladau'r sir mewn cyflwr trychinebus a bod nifer o lefydd gwag mewn ysgolion ac mae angen ad-drefnu sylweddol fel yr unig gam ymlaen.

Mae bygthiad y gall hyd at 32 o ysgolion gau ac yna fe fydd y sir yn sefydlu 18 o ysgolion ardal yn eu lle.

Dywedodd yr aelod yn y cabinet sydd â chyfrifoldeb am addysg, Mary Thomas: "Mae manteision sylweddol eisoes wedi cael eu gweld yn yr ardaloedd peilot ac fe fydd ymgynghoriad llawn a manwl yn cael ei gynnal ar unrhyw gynllun sy'n golygu newid."




HEFYD:
Cyfarfod i uno ymgyrch ysgolion
11 Chwef 05 |  Newyddion
Poeni am gau ysgolion
14 Ion 05 |  Newyddion
Cau ysgol fach o dan y lach
14 Ebr 04 |  Newyddion
'Dal i ystyried dyfodol ysgolion'
21 Maw 05 |  Newyddion
Pryder am ddyfodol ysgolion
07 Maw 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^