Cymru: Disgwyl i'r gwaharddiad fod yn fwy eang
|
Mi fydd y Cynulliad yn cael yr hawl i wahardd smygu mewn mannau cyhoeddus fel rhan o Fesur Iechyd newydd Llywodraeth Prydain.
Yn Lloegr mi fydd clybiau preifat a thafarndai sydd ddim yn gweini bwyd yn cael eu heithrio o'r gwharddiad, ond yng Nghymru mae disgwyl i'r Cynulliad gyflwyno gwaharddiad llwyr.
Ar ôl y dadlau o amgylch bwrdd y cabinet yn San Steffan, mae'r llywodraeth wedi llwyddo i ddod i gytundeb ar delerau mesur i wahardd ysmygu.
Mae'r mesur yn cynnwys cymal fydd yn rhoi'r pwerau â'r cyfrifoldeb i lywodraeth y cynulliad i allu cyflwyno gwaharddiad.
Bydd y mesur yn caniatáu i'r cynulliad benderfynu pa mor eang fydd y gwahardd, er enghraifft a ddylid caniatáu clybiau preifat i gael eu heithrio.
O dan y cynllun bydd smygu'n cael ei wahardd mewn llefydd cyhoeddus caeedig ac mewn llefydd gwaith yn Lloegr o 2007 ymlaen.
Gwahardd 'eang'
Ond mae eithriadau - clybiau preifat - fel a nodwyd ym maniffesto Llafur.
Bydd ystafelloedd arbennig ar gyfer ysmygwyr mewn tafarndai sydd ddim yn gwerthu bwyd ond fydd dim ystafelloedd ysmygu mewn bwytai a thafarndai sy'n gwerthu bwyd.
Yng Nghymru mae disgwyl i'r gwaharddiad fod yn fwy eang.
Dywedodd gweinidog iechyd y cynulliad Brian Gibbons y byddai gwaharddiad yn helpu arbed miloedd o fywydau yng Nghymru.
Dywedodd ddydd Iau fod llywodraeth y cynulliad eisoes wedi datgan bwriad ym mis Gorffennaf i gyflwyno gwaharddiad cynhwysfawr ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd o fewn tair blynedd yng Nghymru.
"Mae pwyllgor trawsbleidiol wedi cyflwyno argymhellion o ran sut y gellir gweithredu gwaharddiad yng Nghymru gafodd gefnogaeth sylweddol yn y cynulliad," meddai. "Mae hyn yn dangos y gefnogaeth i'r syniad yng Nghymru."
Ychwanegodd y bydd y cynulliad yn ymghynghori wedi i'r mesur gael cydsyniad brenhinol er mwyn rhoi cyfle i bobl fynegi barn ar y ffordd orau o wethredu gwaharddiad.
 |
O ran iechyd does dim rheswm dros beidio cael gwaharddiad llawn...yng Nghymru
|
Mae Dr Dai Lloyd AC Plaid Cymru, sydd wedi eistedd ar bwyllgor amlbleidiol ar smygu, yn dweud bod cefnogaeth ymhlith gwleidyddion i wahardd smygu mewn adeiladau cyhoeddus.
"Mae pwysau anferthol o du'r sawl sy'n cynhyrchu tobaco i beidio cael gwaharddiad llawn," dywedodd.
"Ond o sail iechyd does dim rheswm dros beidio cael gwaharddiad llawn ar smygu tu fewn i adeiladau cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd Dr Lloyd fod y cynulliad wedi cytuno ar yr egwyddol yn Ionawr 2003 i wahardd smygu mewn adeiladau cyhoeddus yng Nghymru.
"Os ydyn ni'n caniatau smygu mewn tafarndai o dan rhai amgylchiadau mae rhywun yn gorfod glanhau yr ystafelloedd a gweini ynddyn nhw - 'da ni'n sôn am hawliau gweithwyr ar ddiwedd y dydd," ychwanegodd.
Mae dau wleidydd o Gymru, AS Gogledd Caerdydd Julie Morgan a'r Farwnes Finlay o Landaf, eisoes wedi cyflwyno mesur smygu i Gymru gerbron Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi.
Er na lwyddodd y mesurau, roedd y ddau am newid y ddeddf fel y gallai'r cynulliad wahardd smygu ei hun os oedd yn dymuno hynny.