BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 27 Hydref 2005, 05:56 GMT 06:56 UK
Cynlluniau newydd i hen sinema
Sinema'r Scala, Prestatyn
Cafodd sinema'r Scala ei agor ym 1913
Mae cynllun i atgyweirio ac ail-agor un o sinemau hynaf Cymru wedi cael hwb ariannol.

Roedd sinema'r Scala ym Mhrestatyn yn dangos ffilmiau heb sain cyn y Rhyfel Byd Cyntaf ond bu'n rhaid ei gau yn 2000 am fod yr adeilad mewn cyflwr peryglus.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn barod i gyfrannu 1.5m tuag at y gwaith adfer.

Cafodd y Scala ei adeiladu ym 1898 yn wreiddiol fel neuadd y dref ac yna cafodd ei addasu'n sinema ym 1913 gan James Roberts.

Un o'r rhai sydd am weld y sinema yn ailagor yw Sandra Pitt ac mae hi am weld ffilmiau'n cael eu dangos yno eto o fewn dwy flynedd.

'Cyfrannu'

"Mae hyn yn newydion gwych, mae wedi bod yn frwydr hir," meddai.

"Bydd parti mawr ar y diwrnod agor - mae angen hyn ar y dre'.

"Roedd yn ganolbwynt y gymuned ac os oedden chi'n cwrdd rhywun - byddech chi'n gwneud y tu allan i'r Scala," ychwanegodd.

"Roedd yn golled i'r dref."

Llun o'r sinema ar ei newydd wedd
Fel yma y bydd y Scala yn edrych ar l y gwaith

Un o'r ffilmiau cyntaf i gael ei dangos yn y sinema oedd 'All Quiet on the Western Front'.

Mae'r cynulliad yn cynnig y grant i Gyngor Sir Ddinbych ac chredir mai 3.5 fydd y gost i gwblhau'r gwaith adfer.

"Bydd yn rhaid i'r cyngor gyfrannu peth arian a bydd yn rhaid i Ffrindiau Scala godi 100,000," dywedodd Ms Pitt.

Bydd yr adeilad yn cael ei addasu gan benseiri o Lundain, Burrell Foley Fischer ac yn orffenedig bydd yn cynnwys dwy sinema, canolfan ar gyfer dramu a dawnsfeydd yn ogystal bar a chaffi.

Mae'r cynllun yn un o 13 sydd wedi cael arian gan Lywodraeth y Cynulliad.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^