BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 19 Mawrth, 2005, 17:25 GMT
Y Gamp Lawn i Gymru
Tom Shanklin
Mae tm rygbi Cymru wedi sicrhau'r Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 27 mlynedd.

Fe gurodd y tm y Gwyddelod o 32 pwynt i 20 yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.

A dyma'r tro cyntaf i Gymru ennill gartref yn erbyn Iwerddon ers 1983.

Wedi'r gm dywedodd yr hyfforddwr Mike Ruddock fod ymrwymiad y chwaraewyr wedi bod yn ganolog i'w llwyddiant.

Roedd Stadiwm y Mileniwm yn llawn gyda bron i 73,000 o gefnogwyr yno.

Y prop, Gethin Jenkins, a'r cefnwr, Kevin Morgan, groesodd am y ceisiau wrth i wyr Mike Ruddock sicrhau buddugoliaeth haws na'r disgwyl.

Ciciodd y maswr, Stephen Jones, bedair cic gosb a dau drosiad gyda'r canolwr, Gavin Henson, yn sgorio cic gosb anferth a gl adlam.

Cafodd Marcus Horan gais i ddod ag Iwerddon yn l a chafwyd munudau nerfus iawn i'r Cymry wedi i Geordan Murphy sgorio ail gais hwyr i'r Gwyddelod.

Credir fod dros 150,000 wedi dod i Gaerdydd i weld y fuddugoliaeth.

Roedd hanner y dorf yn gwylio'r gm yn Stadiwm y Mileniwm a'r gweddill mewn tafarnau ac ar lawnt Neuadd y Ddinas lle roedd sgrn fawr wedi ei gosod.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^