BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 22 Hydref 2005, 14:04 GMT 15:04 UK
Cuddfan newydd i wylio adar prin
Argraff arlunydd o'r guddfan adar
Bydd y guddfan yn cael ei hadeiladu gyda derw Cymreig
Mae gwarchodfa natur sy' wedi ei lleoli ar safle cors fawn 12,000 mlwydd oed am agor cuddfan adar newydd gwerth 80,000.

Bydd y guddfan yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron ger Tregaron yng Ngheredigion yn agor ym mis Chwefror.

Mae rhai o adar mwya' prin Prydain fel bodau tinwyn, barcutiaid coch a chornicyllod i'w gweld yn y warchodfa.

Dywedodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, sy'n rhedeg y warchodfa, bod y guddfan yn mynd i gynnig golygfeydd digyffelyb o fywyd adar.

Yn l Paul Culyer, rheolwr Cors Caron, bydd dyluniad "cysyniadol" i'r guddfan fydd yn cael ei hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy fel derw Cymreig.

"Ar hyn o bryd does gyda ni ddim cuddfan adar sy'n ddigon mawr felly does gan lawer o ymwelwyr nunlle i gysgodi rhag y tywydd," meddai.

Barcud coch yn hedfan
Mae gwarchodfa Cors Caron yn gartre' i sawl aderyn prin fel y barcud coch

"Mae nifer o grwpau ysgol a grwpau eraill yn ymweld ni felly mi fydd y guddfan yn gwella pethau iddyn nhw a gobeithio yn gwneud yr holl brofiad yn fwy pleserus."

Yn flynyddol mae'r warchodfa 2,000-erw yn denu 20,000 o ymwelwyr ac mae'r systemau mawn sydd wedi ei godi, yn cael ei ystyried ymhlith y gorau ym Mhrydain.

Mae adeiladu'r guddfan yn mynd i gael ei ariannu gan gynllun Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd.

Ym 1993, rhoddwyd Cors Caron ar restr o safleoedd tiroedd gwlybion o bwysigrwydd rhyngwladol.


HEFYD:
Chwilio am ddwy dylluan brin
15 Medi 05 |  Newyddion
Gwario 750,000 ar ganolfan
17 Meh 05 |  Newyddion
Aderyn prin: Wyau wedi deor
16 Meh 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^