BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Mawrth, 2005, 11:11 GMT
Swydd newydd ar ôl teithio'r byd
Rebecca Williams
Profiad: Mae Rebecca Williams wedi gweithio ym Mhacistan a Gwlad Pwyl
Menyw o'r canolbarth yw swyddog datblygu'r Byd, y papur dyddiol cenedlaethol Cymraeg.

Er nad yw'r papur yn cael ei gyhoeddi eto, mae Cwmni Dyddiol Cyf, wrthi'n gwneud paratoadau.

Daw Rebecca Williams o Aberystwyth ond mae wedi gweithio dramor.

Mae newydd ddychwelyd o Wlad Pwyl lle bu'n swyddog hawliau dynol i fudiad rhyngwladol a chyn hynny bu'n rheolwraig canolfan adnoddau yng ngogledd orllewin Pacistan.

"Dwi'n ffyddiog y bydd Y Byd yn unigryw ei gynnwys a'i natur," meddai.

"Y Gymru gyfoes yw'r man cychwyn a bydd golwg eang ar Gymru a'r byd."

Roedd wedi bod yn swyddog gwybodaeth y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn Llundain.

Y llynedd bu'n gwneud gwaith dros dro i'r Byd.

"Mae cant a mil o bethau i'w gwneud i'r prosiect ddatblygu," meddai Ned Thomas, Cadeirydd Y Byd.

"Un o'r blaenoriaethau fydd estyn rhwydwaith y cefnogwyr, sef darpar ddarllenwyr y papur."

Dywedodd fod safon yr ymgeiswyr yn "argoeli'n dda i ddyfodol y papur" a bod cymaint o bobl ifanc wedi dangos diddordeb yn y fenter.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^