Cafodd pentref Capel Celyn ei foddi er mwyn creu'r argae
|
Mae cyngor dinas Lerpwl wedi pleidleisio'n unfrydol o blaid ymddiheuro'n swyddogol am foddi pentref a chymuned Capel Celyn 40 mlynedd yn ôl.
Daeth i'r amlwg yr wythnos ddiwethaf fod arweinwyr y cyngor wedi cytuno i ymddiheuro am foddi'r cwm a chytunodd arweinwyr y pleidiau ar eiriad yr ymddiheuriad.
Mae'r penderfyniad wedi cael croeso gan yr Arglwydd Roberts o Landudno awgrymodd y dylid ymddiheuro i arweinydd Cyngor Dinas Lerpwl Mike Storey yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Blackpool.
Er i rai groesawu'r ymddiheuriad, mae eraill wedi dweud ei fod yn rhy hwyr gan i'r pentref gael ei foddi yn 1965.
 |
Rydyn ni'n ymddiheuro am unrhyw ansensitifrwydd gan y cyngor yr adeg honno ac yn gobeithio y gellir adfer y berthynas hanesyddol
|
Bu'n rhaid i ddwsinau o deuluoedd Cymraeg adael Capel Celyn cyn i'r cwm gael ei foddi i gyflenwi dŵr i Lerpwl.
Diflannodd y pentre, 12 fferm, swyddfa bost, ysgol a chapel, o dan y dŵr.
Nos Fercher dywedodd y Cynghorydd Mike Storey, arweinydd cyngor Lerpwl o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol, mai "ymddiheuro yw'r cam cyntaf at gymodi".
"Rwy'n gobeithio na fydd pobl yn ei weld fel ystum achos nid dyna ydi o - mae'n cydnabod fod camgymeriadau wedi eu gwneud."
'Angen mwy'
"Mae hwn yn gam ardderchog a phriodol gan y cyngor fydd yn cael ei groesawu trwy ogledd Cymru," meddai'r Arglwydd Roberts o Landudno, a gododd y mater yn wreiddiol gyda chyngor Lerpwl.
"Mae boddi'r cwm yn 1965 wedi achosi llawer o ddicter a drwgdeimlad ymysg pobl ar draws Cymru.
Y cynghorydd Mike Storey, arweinydd Cyngor Lerpwl: "Ymddiheuro yw'r cam cyntaf at gymodi"
|
"Bydd yr ymddiheuriad yn lleddfu'r emosiynau hyn ac yn ein caniatâu i roi'r gorffennol y tu cefn i ni, gan agor cyfnod newydd o gydweithio traws-ffiniol."
Ond mae Llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan, wedi galw am fwy gan gyngor Lerpwl.
"Dwi'n meddwl nawr fod gwerth aruthrol dyfroedd Tryweryn (wedi dod â) miliynau o bunnoedd i economi Glannau Mersi. Mae'n rhaid i hynny olygu rhyw daliad yn ôl i bentrefi a chymunedau eraill.
"Fedran ni ddim ailgreu Capel Celyn ond mi all cymunedau eraill Meirionnydd elwa rhywfaint."
"Ymddiheuriad rhannol ydi o ond mae ymddiheuriad rhannol yn well na dim ymddiheuriad o gwbl.
"Ond i roi cig ar yr esgyrn fel petae, mae'n rhaid i'r ymddiheuriad hefyd fod yn gyfraniad ymarferol i economi frau Meirionnydd."
'Gofid'
Cyhoeddodd y cyngor eiriad yr ymddiheuriad yr wythnos ddiwethaf.
Mae'n dweud fod y cyngor "yn cydnabod ei ddyled i'r miloedd o Gymry sydd wedi cartrefu yn y ddinas".
"Maen nhw mewn cymaint o ffyrdd wedi cyfoethogi bywyd y ddinas," meddai.
Fe gafodd yr ysgol ei chau yng Nghapel Celyn
|
"Rydyn ni'n gwybod fod Lerpwl, yn enwedig ym meysydd meddygaeth ac addysg, wedi bod o wasanaeth mawr i bobl Cymru.
"Ac rydyn ni'n sylweddoli'r gofid 50 mlynedd yn ôl pan gafodd Cwm Celyn ei drawsnewid yn argae i helpu i gwrdd ag anghenion dŵr Lerpwl.
"Rydyn ni'n ymddiheuro am unrhyw ansensitifrwydd gan y cyngor yr adeg honno ac yn gobeithio y gellir adfer y berthynas hanesyddol a chadarn rhwng Lerpwl a Chymru yn llwyr."