Yr hen a'r ifanc: Mae'r berthynas rhwng y cynulliad a San Steffan yn parhau'n agos
|
Fydd gan yr ASau Cymreig a fydd yn cael eu hethol yn yr etholiad cyffredinol fawr ddim dylanwad, os unrhyw ddylanwad o gwbwl, yn ymwneud â rhai o faterion mwyaf yr ymgyrch.
O ganlyniad i ddatganoli dyw ASau bellach ddim yn gyfrifol am benderfyniadau mewn meysydd fel iechyd ac addysg.
Ond chwe blynedd wedi sefydlu'r cynulliad mae nifer o etholwyr yn parhau yn ansicr ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am benderfyniadau.
O ganlyniad i'r refferenda yng Nghymru a'r Alban yn 1997 cafodd grymoedd eu datganoli i Gaerdydd a Chaeredin, ond ar raddfa wahanol.
Rhoddwyd mwy o reolaeth i Senedd Yr Alban dros fwy o feysydd ym mywyd Yr Alban, fel y system gyfreithiol.
Ond er hyn mae rhai'n dadlau fod y gwahaniaeth rhwng San Steffan a Chymru'n fwy diddorol na rhwng San Steffan a'r Alban.
Tra roedd gan Yr Alban ei systemau cyfreithiol ac addysgol ei hun, roedd Cymru a Lloegr mewn gwirionedd yn cael eu hystyried yn un endid o safbwynt y meysydd hyn hyd nes y daeth y cynulliad i fodolaeth yn 1999.
Arian
Mae'r Prif Weinidog Llafur, Rhodri Morgan, a ddechreuodd ar ei swydd ym Mae Caerdydd yn 2000, hefyd wedi pwysleisio fod angen "dŵr clir coch" rhwng Cymru a San Steffan.
Mae ffigyrau'n dangos fod Cymru'n gwario mwy y pen ar addysg ac iechyd na Lloegr.
Hefyd mae ymchwil yn dangos fod Cymru yn perfformio gystal neu'n well na Lloegr ym maes addysg yn yr oed lle mae addysg yn orfodol.
Ond mae rhestrau aros y gwasanaeth iechyd yn hirach yng Nghymru na thros y ffin.
Beth bynnag fo'r gwahaniaethau o ran polisi o San Steffan y daw'r arian ac yng Nghaerdydd wedyn y gwneir y penderfyniadau ar sut i wario'r arian hwnnw.
Hyd yma dim ond gyda llywodraeth Lafur yn San Steffan mae'r llywodraethau Llafur yng Nghaerdydd wedi gweithio (ar wahân i gyfnod lle roedd y llywodraeth yn y cynulliad mewn clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol).
Mae'n debyg y bydd datganoli'n wynebu'r prawf anoddaf pan fydd llywodraethau o bleidiau gwahanol yng Nghaerdydd a Llundain.
Meysydd sydd wedi eu datganoli i'r cynulliad:
Amaeth, coedwigaeth, bwyd a physgodfeydd
Diwylliant, y cyfryngau a chwaraeon - y celfyddydau, chwaraeon a'r iaith Gymraeg; ar wahân i ddarlledu a'r Loteri Cenedlaethol.
Datblygu economaidd
Addysg - ar wahân i recriwtio athrawon a benthyciadau myfyrwyr
Yr amgylchedd - gyda rhai mân eithriadau
Iechyd - ar wahân i erthyliad, embryoleg, mamau benthyg, geneteg, ffrwythlondeb, diogelwch meddyginiaethau, cyfrifoldeb dros y galwedigaethau iechyd a senotrawsblaniad.
Llywodraeth leol a thai - ar wahân i ariannu'r gwasanaeth tân
Gwasanaethau cymdeithasol
Diwydiant a masnach - gan gynnwys hybu buddsoddiad mewnol ac allforion, gweinyddu cyllid strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, cyllido'r Awdurdod Datblygu a phenodiadau.
Nid yw'n gyfrifol am bolisi cystadleuaeth, cyfraith cwmnïau, amddiffyn defnyddwyr, y Swyddfa Bost, polisi masnachol rhyngwladol, y Cynllun Gwell Rheoliadau, rheoli: sefydliadau ariannol, nwy, trydan, ynni niwclear a thelegyfathrebu
Hyfforddiant
Trafnidiaeth - ar wahân i reoli a diogelwch awyrennau, llongau a'r rheilffordd, profion gyrru, y cytundeb i weithredu Ail Bont Hafren.
Y meysydd mae San Steffan yn parhau i fod yn gyfrifol amdanyn nhw:
Materion cyfansoddiadol
Amddiffyn a diogelwch cenedlaethol
Polisi economaidd
Deddfau cyflogaeth
Polisi tramor
Materion cartref
Y system gyfreithiol
Nawdd cymdeithasol