Rhaid i Ymddiriedolaeth Iechyd Sir Benfro a Derwen, sydd mewn dyled o tua £11m, dalu £2.4m y flwyddyn yn ôl i Lywodraeth y Cynulliad tan 2009.
Ond gan fod y diffyg yn mynd yn ôl i 2004/5 mae'r bwrdd wedi cael gorchymyn i arbed tua £4m erbyn Ebrill nesaf.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth mai "mesur dros dro" oedd y newid yn y gwasanaeth er mwyn sicrhau "cydbwysedd".
Rhoi'r gorau i ddefnyddio staff asiantaethau.
Mewn datganiad yr wythnos ddiwethaf dywedodd prif weithredwr dros dro yr ymddiriedolaeth, Mary Hodgeon, ei bod yn pryderu nad oes gan bobl y ffeithiau cywir am y trafodaethau sy'n digwydd ynglŵn â Llwynhelyg.
"Fel y Gwasanaeth Iechyd trwy Gymru rydyn ni'n edrych ar ffyrdd o newid sut mae pobl yn derbyn eu gofal iechyd," meddai.
"Dyw hynny ddim yr un fath â chwtogi gwasanaethau - mae'n bell o hynny."
Aeth ymlaen i ddweud nad oedd statws Llwynhelyg yn cael ei ostwng i statws ysbyty bwthyn.
"Rydyn ni'n ceisio gwella gallu'r ysbyty i ddarparu gwasanaethau allweddol i bobl Sir Benfro," meddai.
Yn ddiweddar bu'n rhaid i'r ymddiriedolaeth sicrhau'r cyhoedd na fyddai Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-Pysgod yn cau i arbed arian ac y byddai'n parhau ar agor hyd nes y byddai ysbyty newydd wedi ei gwblhau yn 2007.
Pryder
Mae'r cyngor iechyd cymuned a gwleidyddion lleol wedi mynegi pryder ynglŷn â'r cynlluniau.
Rhyddhaodd Aelodau Cynulliad Sir Benfro, Christine Gwyther a Tamsin Dunwoody, ddatganiad ar y cyd yn lleisio eu pryder.
Maen nhw'n pryderu nad yw'n ymddangos fod meysydd lle gellid gwneud arbedion wedi eu nodi cyn i wasanaethau gael eu cwtogi.
"Rydyn ni i gyd yn deall fod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd weithiau," meddent.
"Ond ni ddylai'r penderfyniadau hyn fod ar draul gwasanaethau pwysig i gleifion Sir Benfro.
"Mae'r arbedion sydd wedi eu nodi yn y rhestr o doriadau, mewn rhai achosion, yn eithaf bach a gellid cwrdd â nhw drwy arbedion eraill a strwythur rheoli tynn.
"Mae'r cyngor iechyd cymuned wedi dweud na fydd yn cefnogi'r toriadau. Dydyn ni ddim chwaith. Mae'n amser i'r ymddiriedolaeth edrych eto ar y toriadau sy'n cael eu cynnig a gwneud mwy o ymdrech i warchod gwasanaethau cleifion."