Cafodd Llyn Efyrnwy ei greu yn yr 1880au
|
Mae hanesydd o Brifysgol Cymru wedi dweud y dylai Cyngor Dinas Lerpwl ymddiheuro i bobl gogledd Powys am foddi pentref Llanwddyn yn yr 1880au er mwyn cyflenwi dŵr i'r ddinas.
Daeth sylwadau Dr Owen Roberts o Brifysgol Cymru Aberystwyth ar raglen materion cyfoes Llinyn Mesur ar BBC Radio Cymru ddydd Sul wedi i arweinwyr Cyngor Dinas Lerpwl gytuno yr wythnos ddiwethaf i ymddiheuro'n swyddogol am foddi cwm Tryweryn.
Mae arweinwyr y pleidiau ar y cyngor wedi cytuno ar eiriad y datganiad fydd yn mynd gerbron y cyngor ddydd Mercher.
 |
Fe gafodd trigolion dyffryn Llanwddyn dipyn llai o iawndal na phobl Capel Celyn felly fe allech chi ddadlau y dylai fod Lerpwl yn ymddiheuro mwy i bobl gogledd Powys....
|
Wrth ymateb i sylwadau Dr Roberts dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y byddan nhw "yn cael eu hystyried".
Cafodd pentref Llanwddyn ei foddi yn yr 1880au er mwyn creu Llyn Efyrnwy a chollwyd eglwys, dau gapel, tri thafarn, 10 ffermdy a 37 o dai.
Dywedodd Dr Roberts fod llawer llai o ffws wedi ei wneud o'r digwyddiad bryd hynny o'i gymharu â boddi pentref Capel Celyn gan nad oedd yr un nifer o wleidyddion cenedlaetholgar a grwpiau pwysau wedi eu sefydlu.
'Sylw gwleidyddol'
"Symudwyd llawer mwy o bobl oddi yno nag yn achos Capel Celyn felly fe allech chi ddadlau fod Capel Celyn wedi cael gormod o sylw," meddai.
"Yn sicr oherwydd fod y mudiad cenedlaetholgar o gwmpas erbyn y 1950au oedd yn fwy radical efallai na'r hyn oedd o gwmpas yn y 1880au dyna pam ei fod wedi cael mwy o sylw gwleidyddol.
"Fe gafodd trigolion dyffryn Llanwddyn dipyn llai o iawndal na phobl Capel Celyn felly fe allech chi ddadlau y dylai fod Lerpwl yn ymddiheuro mwy i bobl gogledd Powys na phobl Sir Feirionnydd.
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Lerpwl y bydd y sylwadau hyn "yn cael eu hystyried".
"Os oes pobl yng Nghymru sy'n teimlo y dylai pethau gael eu hychwanegu at y cynnig (ymddiheuriad Tryweryn) yna bydd y cyngor yn ystyried hynny," meddai.
Cyhoeddodd Cyngor Lerpwl eiriad yr ymddiheuriad am foddi cwm Tryweryn fore Mercher a bydd yn cael ei drafod yn ffurfiol yr wythnos hon.
'Gofid'
Yr Arglwydd Roberts o Landudno awgrymodd y syniad o ymddiheuriad i arweinydd Cyngor Dinas Lerpwl, Mike Storey, yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Blackpool.
Mae'r ymddiheuriad yn dweud fod y cyngor yn "sylweddoli'r gofid hanner can mlynedd yn ôl pan gafodd cwm Tryweryn ei drawsnewid yn argae i helpu i gwrdd ag anghenion dŵr Lerpwl.
"Rydyn ni'n ymddiheuro am unrhyw ansensitifrwydd gan y cyngor yr adeg honno ac yn gobeithio y gellir adfer y berthynas hanesyddol a chadarn rhwng Lerpwl a Chymru yn llwyr," meddai.
Er i rai groesawu'r ymddiheuriad mae eraill wedi dweud ei fod yn rhy hwyr.