BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 14 Mawrth, 2005, 12:22 GMT
Buddugoliaeth hanesyddol
Rhys Williams yn sgorio un o ddau gais ac yn cael ei daclo gan Sean Lamont

Mae cefnogwyr rygbi Gymru yn dathlu buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Yr Alban ddydd Sul.

O'r cychwyn cynta mwynhaodd y dorf rygbi gwefreiddiol ac mae'r sgr terfynol, 22-46, yn golygu y gall Cymru gipio'r Gamp Lawn.

Sgoriodd Rhys Williams, Ryan Jones a Shane Williams geisiadau yr un dros eu gwlad cyn hanner amser ac fe gafwyd dau gan Kevin Morgan.

Un cais gan Gymru gafwyd yn yr ail hanner pan groesodd Rhys Williams eto am ei ail gais.

Fe ddaeth Yr Albanwyr yn eu holau yn yr ail hanner a chael tri chais.

Roedd 40,000 o gefnogwyr wedi teithio mewn awyren, bws, trn a char i lenwi Caeredin mr o grysau cochion.

Fe fydd Cymru'n chwarae gm olaf y bencampwriaeth yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn yn erbyn Iwerddon, gollodd ddydd Sadwrn yn erbyn y Ffrancwyr.

Gall Cymru ennill y gamp lawn, y goron driphlyg a'r bencampwriaeth os y bydden nhw'n trechu'r Gwyddelod.




HEFYD:
Rygbi: Cymru'n trechu Lloegr
06 Chwef 05 |  Newyddion
Buddugoliaeth i Gymru
26 Chwef 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^