Mae'r ffliw adar wedi lledu o dde ddwyrain Asia i Ewrop
|
Mae Cymru yn barod i ymdopi gydag epidemig o'r ffliw adar pe bai'n cyrraedd, yn ôl prif filfeddyg y wlad.
Dywedodd Dr Christianne Glossop fod cynllun manwl wedi ei baratoi rhag ofn i'r haint marwol sydd wedi ei ddarganfod yn Nhwrci a Romania gyrraedd Prydain.
Galwodd ar bobl yng Nghymru i beidio mynd i banig ac i beidio osgoi bwyta ieir ac wyau, sy'n ddiogel i'w bwyta.
Daeth ei sylwadau ddydd Sadwrn wrth i brofion gadarnhau achos o fath o'r ffliw yn Romania.
 |
Rydyn ni'n gwybod yn union sut fydden ni'n rheoli popeth, o enw'r cyfarwyddwr gweithredu i bwy fyddai'n gwneud beth ac yn lle
|
"Allwn ni ddim amddiffyn ein hunain yn llwyr o hyn ac felly mae'n rhaid i ni fod yn barod i ddelio ag ef os yw'n cyrraedd," meddai Dr Glossop.
"Yr hyn sydd wedi newid ers yr wythnos ddiwethaf ydi fod ganddon ni nawr achos sy'n llawer nes," eglurodd.
"Dyna pam fod pawb yn fwy gwyliadwrus."
Adar gwyllt
Dywedodd nad yw'n credu ei bod yn anochel y bydd y ffliw yn cyrraedd Prydain ond bod yn rhaid i'r awdurdodau fod yn barod.
"Mae ganddon ni gynlluniau wrth gefn i ddelio ag achos o ffliw adar yng Nghymru," meddai wrth BBC Cymru.
Mae Twrci a Romania wedi lladd miloedd o adar
|
"Rydyn ni'n gwybod yn union sut fydden ni'n rheoli popeth, o enw'r cyfarwyddwr gweithredu i bwy fyddai'n gwneud beth ac yn lle fel ein bod ni'n barod pe bai achosion."
Pan ofynnwyd wrthi am ddulliau o'i atal dywedodd Dr Glossop mai'r bygythiad mwyaf yw adar gwyllt a allai fod yn cario'r feirws.
"Un o'r problemau yw na allwn ni amddiffyn ein hunain rhag adar gwyllt yn hedfan i Brydain ac felly dyw'r llwybr amddiffyn hwnnw ddim yn agored i ni," meddai.
"Ond mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus. Rydyn ni'n sgrinio adar gwyllt nawr i edrych am bresenoldeb yr haint ac rydyn ni hefyd yn sgrinio ieir domestig - dyna rywbeth rydyn ni'n ei wneud bob blwyddyn."
Mae ffermwyr ieir masnachol a hyd yn oed pobl sy'n cadw ieir, hwyaid ac adar eraill yn eu gerddi wedi cael cais i gadw golwg am unrhyw arwyddion o afiechyd ac i hysbysu eu milfeddyg os ydyn nhw'n bryderus.
Ond dywedodd Dr Glossop nad yw bwyta ieir a'u cynnyrch yn berygl i iechyd.
"Mae ieir sy'n cael eu mewnforio o unrhyw wlad gyda ffliw adar yn cael eu hatal pan yw'n cael ei ddarganfod felly.....peidiwch â bod ofn prynu ieir i'w bwyta.
'Dim perygl'
"Does dim perygl. Dwi'n bwriadu bwyta cyw iâr wedi ei rostio fory," meddai.
Mae ffermwyr ieir hefyd yn rhoi'r un cyngor â Dr Glossop.
"Dwi'n gobeithio y bydd pawb yn ei roi (y ffliw adar) mewn persbectif," meddai Tony Burgess, sy'n rhedeg busnes wyau buarth yn Aberystwyth.
Dywedodd Mr Burgess mai dim ond 60 o farwolaethau oedd wedi eu cadarnhau yn ne ddwyrain Asia lle mae'r haint wedi bod yn bresennol ers 18 mis.
Ond ym Mhrydain roedd 4,000 o farwolaethau wedi eu hachosi gan ffliw cyffredin, honnodd.
Dywedodd Mr Burgess fod cynhyrchwyr fel ef yn pryderu y gall yr ofnau olygu na fydd pobl yn prynu ieir ac wyau.
"Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cynghori pobl nad oes perygl i iechyd o fwyta ieir neu wyau," meddai.