BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 15 Hydref 2005, 11:09 GMT 12:09 UK
Cludo llyfrau i Batagonia
Ceris Gruffudd (o Gymdeithas Cymru-Ariannin) ac Esyllt Nest Roberts
Ceris Gruffudd (o Gymdeithas Cymru-Ariannin) ac Esyllt Nest Roberts

Mae dros 1,000 o lyfrau wedi cyrraedd Patagonia er mwyn ceisio hybu'r iaith Gymraeg mewn ysgolion yno.

Mae'r stoc am ddim, sy'n cynnwys deunyddiau eraill i helpu plant, wedi costio bron i 7,000.

Cyngor Llyfrau Cymru sydd wedi trefnu'r prosiect ac mae'r llyfrau wedi eu rhoi gan nifer o grwpiau yng Nghymru.

Bydd Esyllt Nest Roberts, athrawes ym Mhatagonia, yn casglu'r llyfrau o faes awyr Buenos Aires ddydd Llun.

Mae nifer o gyhoeddwyr annibynnol, Cymdeithas Cymru-Ariannin, y Cyngor Prydeinig, Cyngor Llyfrau Cymru a chyhoeddwyr annibynnol wedi cefnogi'r cynllun.

Trosglwyddo'r iaith

"Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gallu helpu disgyblion allan ym Mhatagonia sy'n dysgu'r iaith Gymraeg," meddai Helgard Krause o'r Cyngor Llyfrau.

"Maen nhw wedi gwneud cymaint i sicrhau fod yr iaith yn cael ei throsglwyddo o un genhedlaeth i'r llall."

Cyngor Llyfrau Cymru gasglodd y llyfrau a Ms Roberts oedd yn gyfrifol am eu dewis.

Mae ei swydd yn cael ei noddi fel rhan o brosiect yr iaith Gymraeg yn Chubut, sy'n cael ei redeg gan y Cyngor Prydeinig a'i ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad.

"Dwi wedi gweld 'm llygad fy hun y gwaith pwysig y mae'r prosiect hwn yn ei wneud i gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw ym Mhatagonia," meddai Alun Pugh, Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Iaith Gymraeg y cynulliad.

"Bydd y rhodd hael hon yn adnodd gwerthfawr i gefnogi'r rhai sy'n dysgu Cymraeg."




HEFYD:
Casglu arian i godi ysgol yn y Wladfa
25 Gorff 05 |  Newyddion
105,000: Dysgu ym Mhatagonia
24 Mai 05 |  Newyddion
Pam bod y Wladfa'n denu Cymry
10 Tach 04 |  Newyddion
Hwb i'r iaith ym Mhatagonia
13 Awst 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^