Tai wedi eu chwalu yng nghwm Tryweryn tua 1965
|
Mae Cyngor Dinas Lerpwl wedi cyhoeddi union eiriad yr ymddiheuriad am foddi Cwm Tryweryn ddeugain mlynedd yn ôl.
Cyhoeddwyd y geiriad fore Mercher a bydd Cyngor Lerpwl yn ei drafod yn ffurfiol ymhen wythnos.
Yr Arglwydd Roberts o Landudno awgrymodd y syniad o ymddiheuriad i arweinydd Cyngor Dinas Lerpwl, Mike Storey, yng ngynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Blackpool.
Er i rai groesawu'r ymddiheuriad, mae eraill, gan gynnwys cyn-brifathrawes ysgol Cwm Celyn, wedi dweud ei fod yn rhy hwyr.
Mae'r ymddiheuriad yn dweud fod y cyngor "yn cydnabod ei ddyled i'r miloedd o Gymry sydd wedi cartrefu yn y ddinas."
"Maen nhw mewn cymaint o ffyrdd wedi cyfoethogi bywyd y ddinas," meddai.
"Rydyn ni'n gwybod fod Lerpwl, yn arbennig ym meysydd meddygaeth ac addysg, wedi bod o wasanaeth mawr i bobl Cymru.
"Rydyn ni'n sylweddoli'r gofid hanner can mlynedd yn ôl pan gafodd Cwm Tryweryn ei drawsnewid yn argae i helpu i gwrdd ag anghenion dŵr Lerpwl.
"Rydyn ni'n ymddiheuro am unrhyw ansensitifrwydd gan y cyngor yr adeg honno ac yn gobeithio y gellir adfer y berthynas hanesyddol a chadarn rhwng Lerpwl a Chymru yn llwyr."
Dywedodd Aelod Cynulliad Meirionnydd Nant Conwy a Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, ei fod yn falch fod cyngor y ddinas am ymddiheuro a'i fod yn gobeithio fod hwn "yn gam ymlaen".
'Pennod newydd'
"Wrth gwrs, all neb ddadwneud yr hyn sydd wedi digwydd, y gofid i'r teuluoedd a'r teimlad sy'n dod o hyd pan mae'r dyfroedd yn dechrau gostwng a rhywun yn gweld y fynwent ac olion y pentref yn dod i'r golwg.
"... rhaid i ni edrych ar hyn fel pennod newydd yn y berthynas rhwng Lerpwl a Gogledd Cymru a ... gweld beth y gallwn ei wneud yn adeiladol i hyrwyddo'r diwylliant Cymraeg yn Lerpwl ac yng ngogledd Cymru ...
Cafodd yr argae ei adeiladu i foddi Cwm Celyn
|
Dywedodd fod angen coffáu'r peth yn briodol, nid dim ond yn y gogledd ond yn Lerpwl.
"Mi garwn i weld ymgais gref ar ran Lerpwl a Phenllyn i esbonio eu diwylliannau i'w gilydd ym mlwyddyn diwylliant 2008.
"Mae gwedd arbennig i hwn lle mae rhaid i hanes y gorffennol gael ei gywiro."
Dywedodd yr Arglwydd Elystan Morgan, ymgeisydd Seneddol ym Meirionnydd adeg Tryweryn, mai'r hyn oedd yn bwysig "yw eu bod nhw (cyngor Lerpwl) yn sylweddoli eu bod wedi gwneud rhywbeth ofnadwy a'u bod wedi gwneud rhywbeth cywilyddus - nid yn unig yn erbyn y gymuned fach ond hefyd yn erbyn gwlad a chenedl.
"Mae eisiau cofio'r erchylltra ac mi fyddai'n dda o beth i deimlo fod rhywfaint o gywilydd yn cael ei deimlo ar ran Lerpwl."
A dywedodd y Cynghorydd Elwyn Edwards y byddai'r ymddheuriad yn mynd "ryw hanner ffordd at leddfu beth ddigwyddodd".
"... dwi eisiau'r gofeb yng Nghelyn a dyw £100,000 (cost y gofeb) yn golygu dim i ddinas Lerpwl o'r holl filiynau y maen nhw wedi ei gael o'r dŵr sy'n dod o Gymru, o Gelyn a llefydd eraill.
"Nid yn unig rydyn ni eisiau ymddiheuriad gan Lerpwl ond rydyn ni eisiau ymddiheuriad gan lywodraeth Lloegr. Yn y pen draw llywodraeth Lloegr sydd wedi boddi'r cwm."
'Rhy ddiweddar'
Un sy'n dal heb faddau yw cyn-brifathrawes yr ysgol, Martha Roberts.
"Mae'n rhy ddiweddar a sut fedran nhw ymddiheuro am y gorthrwm y maen nhw wedi ei achosi yng Nghwm Celyn. Roedd Cwm Celyn yn gwm tawel, distaw, heddychlon o fugeiliaid oedd yn cyd-fyw a chydweithio gyda'i gilydd.
"Mi ddaeth Lerpwl yno a tharo ar draws yr heddwch i gyd a'r ffordd o fyw....sut medran nhw ymddiheuro am hyn, am y gorthrymu a chwalu cymdeithas hollol Gymreig."
Mae'r Parchedig D Ben Rees, gweinidog yn Lerpwl ers degau o flynyddoedd, wedi croesawu'r ymddiheuriad.
"Dwi'n meddwl ei fod yn beth da ei fod (yr ymddiheuriad) yn digwydd ... a dwi'n meddwl (mai Tryweryn) oedd un o'r rhesymau pam nad aeth yr Eisteddfod i Lerpwl," meddai.
"Dwi'n meddwl fod angen i'r Cymry ryddhau ein hunain oddi wrth fusnes Tryweryn gan ei fod yn anffodus iddo ddigwydd.
"Aeth yn erbyn cymaint o arweinwyr Cymru a hefyd yma yn Lerpwl gan fod y Gymdeithas Gymraeg yn gryf yn erbyn boddi Tryweryn."
Cafodd llifddorau llyn Tryweryn eu cau ym 1965, gan gychwyn y broses o foddi pentref Capel Celyn.
Diflannodd y pentre, 12 fferm, swyddfa bost, ysgol a chapel, o dan y dŵr oedd yn cyflenwi dinas Lerpwl.