Keith Allday oedd harbwrfeistr Y Bermo
|
Clywodd cwest i farwolaethau harbwrfeistr a'i gynorthwy-ydd iddyn nhw foddi wedi i'w cwch bychan oedd yn cludo angorfeydd a chadwynau droi wyneb i waered.
Fe aeth Keith Allday, 54, ac Allan Massey, 37, ar goll fis Ebrill diwethaf. Cafodd corff Mr Allday ei ganfod yn fuan wedyn ond ni ddaethpwyd o hyd i gorff Mr Massy am dair wythnos.
Clywodd y llys fod y ddau ddyn bad achub profiadol o'r Bermo allan mewn cwch anaddas i dywydd o'r fath.
Cofnododd y crwner reithfarnau o farwolaeth drwy anffawd.
Dywedodd Barry Davies, swyddog morwrol gyda Chyngor Gwynedd, oedd yn cyflogi'r ddau ddyn, wrth y cwest nad oedd cwch Mr Allday wedi ei gynllunio i osod angorfeydd.
Hefyd dywedodd wrth y cwest, a gafodd ei gynnal yn Siambr Cyngor Arfon, fod y cyngor yn cyflogi contractwr arall i gyflawni gwaith o'r fath.
Tywydd garw
Clywodd y cwest honiad bod disgwyl i'r harbwrfeistr gyflawni'r gwaith fel rhan o'i ddyletswyddau, ond gwadodd Mr Davies hynny.
Gwelwyd y ddau ddyn am y tro olaf yn hwylio allan i'r môr am 1100 ar Ebrill 5 y llynedd.
Cafodd eu cwch 15 troedfedd ei ganfod yn arnofio ben i waered ger wal yr harbwr.
Ni chafodd corff Alan Massey ei ddarganfod tan Ebrill 27
|
Dywedodd y Crwner Dewi Pritchard-Jones ei fod yn credu fod y ddamwain wedi digwydd tra roedd y dynion yn croesi'r sianel 30 troedfedd o ddyfnder rhwng Y Bermo a'r Friog mewn tywydd garw.
Roedden nhw'n bwriadu gadael yr angorfeydd a'r cadwynau yn Y Friog i'w gosod pan fo'r llanw'n isel.
Roedd Mr Pritchard-Jones yn credu fod angor wedi mynd dros yr ochr a bod un neu ddau o'r dynion wedi mynd dros yr ochr i geisio ei adfer.
Achosodd pwysau'r angor oedd ar ôl a'r dŵr oedd wedi dod i mewn i'r cwch iddo droi.
Dywedodd Coral Redpath, oedd ar ei gwyliau yn yr ardal, wrth y cwest ei bod wedi gweld "tipyn o ddŵr" i mewn yn y cwch wrth iddo ddod ar draws yr harbwr.
"Nid oedd yn edrych yn iawn," meddai.
Dywedodd Julian Kirkham, harbwrfeistr wedi ymddeol, fod amodau'r môr y diwrnod hwnnw'n "ofnadwy."
Poblogaidd
Dywedodd Mr Pritchard-Jones fod y ddau ddyn yn boblogaidd, yn cael eu parchu'n fawr ac y bydden nhw'n cael eu colli.
Mewn datganiad wedi'r cwest dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, Harry Thomas: "Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i deulu, cyfeillion a chyd-weithwyr Keith Allday ac Alan Massey.
"Bu colli'n cydweithwyr yn y drychineb yn Abermaw yn ergyd fawr i ni.
"Roedd Keith ac Alan yn aelodau blaenllaw ac uchel iawn eu parch o Uned Forwrol Cyngor Gwynedd.
"Roedd y ddau'n ymroddi yn llwyr i'w gwaith, gyda staff y cyngor yn teimlo'r golled yn fawr iawn."
Roedd Mr Allday wedi bod yn llywiwr ar y bad achub am 12 mlynedd ac roedd wedi bwriadu ymddeol eleni.
Gadawodd wraig, Jill, pump o blant, Emma, Sara, Sean, Kassie a Katie, a wyres, Molly.
Roedd Mr Massey, tad i un, hefyd yn gweithio fel gyrrwr tacsi rhan amser yn y dref.
Fe lwyddodd cronfa i gaslgu Ł56,000 i deuluoedd y ddau a cafodd ei chau ddydd Gwener diwethaf.