Mae Galeri ar lan doc Fictoria yng Nghaernarfon
|
Mae canolfan gelfyddydol newydd wedi ei hagor yn swyddogol yng Nghaernarfon.
Ar lan doc Fictoria yn y dref mae Galeri ac mae'r gwaith adeiladu wedi costio £7.5m.
Mae'r rheolwyr yn gobeithio y bydd yr ardal gyfan yn elwa'n gelfyddydol ac yn economaidd o'r datblygiad.
Mae'r ganolfan yn cynnwys theatr gyda lle i 400 o bobol, dwy stiwdio ymarfer, oriel gelf, caffi, gweithdai a swyddfeydd.
Agorodd y ganolfan ei drysau nos Lun gyda'r sioe Lle di'r Lle? Dre di'r Lle! gan blant sy'n dilyn cwrs Sbarc, prosiect celf yng Nghaernarfon.
Yn ystod y tymor agoriadol fe fydd sêr fel Bryn Terfel, Catrin Finch, Jonathan Davies ac Ieuan Evans yn ymddangos yn Galeri.
Bydd cyngherddau gyda Chôr Meibion Caernarfon ac Iona ac Andy a bydd Ysgol Pendalar yn cyflwyno Noson Nostalgia gydag Edward H, Tecwyn Ifan, Linda Healy, Geraint Griffiths, Hogia'r Wyddfa a John Ogwen.
Dathliadau
Ar Ebrill 1 bydd penwythnos o ddathliadau'n dechrau a fydd yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau, cyngherddau a gweithdai i roi blas o'r hyn fydd yn digwydd yn y ganolfan.
Y gobaith yw y bydd yr ardal gyfan yn elwa'n gelfyddydol o'r ganolfan
|
"Mae'r rhaglen wedi ei chynllunio'n fanwl er mwyn cynnwys amrywiaeth eang o gerddoriaeth, ffilm a digwyddiadau a fydd, gobeithio, at ddant pawb," meddai Huw Aled, Rheolwr Galeri.
"Rhai yn adloniant pur, eraill yn canolbwyntio ar greu gwaith newydd ac eraill yn annog gweithgaredd cymunedol a datblygiad.
"Bydd y sinema yn cynnwys o leiaf dri dangosiad bob wythnos gan gynnig y dewis gorau o ffilmiau newydd, Art House a chlasuron eraill."
Hefyd yn y ganolfan mae Safle Celf er mwyn hyrwyddo celf weledol mewn ffordd arbrofol a chyfoes ac mae bar caffi sef Doc.
Mae Galeri yn ogystal yn gartref i nifer o gwmnïau preswyl gan gynnwys Canolfan Gerdd William Mathias, Dawns i Bawb, Llwyfan Gogledd Cymru a Chomisiwn Sgrîn Cymru.