BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 5 Mawrth, 2005, 10:22 GMT
Rhaglen Gymraeg yn hwb i'r Aeleg
Nia Parry
Nia Parry oedd y tiwtor yn ystod cyfresi cariad@iaith

Mae fformat un o raglenni Cymraeg wedi cael ei gwerthu i ddarlledwyr yn Iwerddon.

Gobaith y darlledwyr TG4 yn ardal y Gaeltach yng ngorllewin Iwerddon ydy y bydd y rhaglen yn hwb i'r iaith Aeleg.

Bu rhaglenni cariad@iaith ar S4C yn dilyn aelodau o'r cyhoedd ac enwogion yn dysgu Cymraeg yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.

Bydd fersiwn Gwyddelig o cariad@iaith yn cael ei chynhyrchu yn yr iaith Wyddeleg gan gwmni annibynnol o Iwerddon ar gyfer TG4.

dwi'n siwr y bydd y genedl eisiau gweld sut y bydden nhw'n ymdopi â dysgu Gaeleg
Proinsias Ni Ghrainne, Comisiynydd TG4

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni, sydd wedi ei lleoli yn y gorllewin, lle mae nifer o siaradwyr Gweddelig yn byw, eu bod yn gobeithio denu nifer o enwogion o'r wlad i gymryd rhan.

"Rwy'n hyderus y bydd cariad@iaith yn llwyddiant ar TG4," meddai Proinsias Ni Ghrainne, Comisiynydd TG4.

"Mae gennym gymysgedd difyr o enwogion posib, a dwi'n siwr y bydd y genedl eisiau gweld sut y bydden nhw'n ymdopi â dysgu Gaeleg."

Cafodd TG4 ei sefydlu yn 1996 ac mae tua 800,000 o wylwyr yn troi mewn i'r sianel bob dydd yn ôl y cwmni, sy'n dod o dan ymbarél RTE.

Mae'r rhaglen cariad@iaith yn dilyn 'y disgyblion' tra'u bod nhw'n dysgu'r iaith o dan oruchwyliaeth tîm o arbenigwyr ieithyddol.

Llwyddiannus

Cynllun dyfeisgar i ddysgu ieithoedd o'r enw 'suggestopedia' sy'n sylfaen i'r rhaglen, gyda'r system yn defnyddio delweddau gweledol a thechnegau cof i ddysgu elfennau syml yr iaith.

Bu tair cyfres o cariad@iaith ar S4C, gyda un gyfres yn canolbwyntio ar enwogion ac fe welwyd nifer yn treulio wythnos yn dysgu Cymraeg.

TG4
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar TG4 yn yr Hydref
Yr athletwraig paralympaidd, Tanni Grey-Thompson, enillodd y gyfres.

"Bu fformat cariad@iaith yn un llwyddiannus i S4C," meddai Cyfarwyddwr Rhaglenni S4C, Iona Jones.

"Roedd yn gymysgedd ddiddorol o enwogion yn cynnig fformat gwylio difyr tra'n codi ymwybyddiaeth a diddordeb yn yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig.

"Rydym yn hapus iawn bod TG4 wedi prynu'r fformat, ac rwy'n siwr y bydd y gyfres yr un mor llwyddiannus yn yr Ynys Werdd ac yr oedd hi yma yng Nghymru."

Cafodd cariad@iaith ei chynhyrchu gan gwmni Fflic i S4C gyda Nia Parry wrth y llyw yn dysgu'r enwogion a'r cyhoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran TG4 y bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar y sianel yn yr Hydref.




HEFYD:
Athletwraig yw'r dysgwr gorau
13 Maw 04 |  Newyddion
Dysgu Cymraeg dan lens y camera
15 Mai 02 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^