Bu farw Dr Gwynfor Evans yn 92 oed ym mis Ebrill
|
Cafodd heddychiaeth un o wleidyddion amlyca Cymru ei dathlu mewn gwasanaeth ar Fynydd Epynt ddydd Sadwrn.
Yng Nghapel y Babell roedd 'na wasanaeth gan Gymdeithas y Cymod er cof am Gwynfor Evans, a fu farw yn gynharach eleni yn 92 oed.
Gwrthwynebodd Dr Evans y meddiant gan y Swyddfa Ryfel o 40,000 o erwau o Fynydd Epynt fel tir ymarfer i'r Fyddin Brydeinig yn 1940.
Mae tir Mynydd Epynt yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer ymarfer milwrol.
Roedd y gwasanaeth yn coffau bywyd Dr Evans a geisiodd achub y gymuned Gymraeg oedd yn byw ar y mynydd.
Roedd 400 o bobl yn byw ac yn ffermio'r mynydd ac roedd y Swyddfa Ryfel yn eu gorfodi i adael gan roi wythnosau'n unig o rybudd.
'Anghyfiawnder'
Ers dyfodiad y fyddin mae ffermydd wedi eu hail enwi ac mae Clwyd Bach y Groes, Hirllwyn a Phentref Uchaf bellach yn Dixie's Corner, Piccadilly Circus a Gallows Hill.
Yn ystod y dydd bu aelodau a chefnogwyr Cymdeithas y Cymod yn cerdded ar draws y tir heb ganiatād y fyddin i ddangos eu gwrthwynebiad i hyfforddi milwyr yno ar gyfer y rhyfel yn Irac.
Aelodau Cymdeithas y Cymod yn cerdded ar draws tir y fyddin
|
Capel y Babell oedd un o dargedau cyntaf bwledi'r fyddin.
Roedd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn yr adfeilion o dan ofal y Parchedig Pryderi Llwyd Jones a'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, mab Dr Evans.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas y Cymod bod yr aelodau yn benderfynol o beidio ā gadael i "anghyfiawnder y Swyddfa Ryfel Brydeinig o chwalu bro Gymraeg gyfan gael ei anghofio".
Ychwanegodd hefyd na ddylai brwydr Dr Evans ac eraill i'w diogelu chwaith gael ei anghofio.
"Nid yw'r anghyfiawnder yn mynd yn ddim llai gydag amser a thra bod y fyddin yn dal ei gafael ar ein tir," meddai.