Mae Castle Cement yn disgwyl am ganlyniadau ail-brawf ar ollyngiadau o'r odyn
|
Mae gwaith sment yn Sir y Fflint wedi gorfod cau un o'i odynau oherwydd pryderon am effeithiau ar yr amgylchfyd.
Bydd ymchwiliad pellach yng ngwaith Castle Cement yn Padeswood, ger yr Wyddgrug, i ddarganfod pam bod gollyngiadau diocsinau yn uwch na'r terfynau.
Mae Asiantaeth yr Amgylchfyd wedi gorfodi Castle i roi gorau ar gynhyrchu sment yn Odyn 3 yn y ffatri.
Ni fydd yn cael ail-gychwyn yr odyn nes i'r cwmni brofi bod modd gweithredu o fewn terfynau sydd wedi eu gosod gan yr Asiantaeth.
Mae'r awdurdod hefyd yn gofyn am fanylion am sut y bydd Castle yn sicrhau eu bod yn cadw at gytundebau ei drwydded.
Yn yr haf, mae disgwyl i'r cwmni gychwyn gwaith profi ar math newydd o odyn ar y safle.
Mi fydd yn llosgi nifer o danwyddau gan gynnwys toddyddion gwastraff, paent a theiars.
Cadarnhaodd Castle Cement y bydd Odyn 3 wedi cau nes bydd canlyniadau ail brawf ar gael.