BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 6 Hydref 2005, 07:31 GMT 08:31 UK
Cofrestru plant: Olion bysedd
Peiriant olion bysedd (cyffredinol)
Bys ar y botwm: Cynllun peilot

Mae ysgol uwchradd yng Nghymru'n defnyddio olion bysedd i gofrestru disgyblion fel rhan o gynllun peilot Prydeinig.

Ysgol Gyfun Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, yw un o'r ysgolion cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio technoleg newydd sy'n sganio olion bysedd disgyblion i nodi a ydyn nhw'n bresennol ai peidio.

Os yw'r cynllun peilot yn llwyddo, gallai'r system ddisodli'r dull traddodiadol o alw enwau yn y dosbarth a chadw cofrestr.

Disgyblion y chweched dosbarth sy'n cymryd rhan yn yr arbrawf. Mae sganiwr yn darllen ôl bys pob disgybl cyn gyrru neges i gyfrifiadur sy'n nodi eu bod wedi cyrraedd yr ysgol.

Bydd y dull yn golygu bod ysgolion a rhieni'n gwybod yn llawer iawn yn gynt pwy sydd yn yr ysgol a phwy sy'n absennol. Os nad yw disgybl yn bresennol, mae'r ysgol yn cysylltu'n syth a rhieni.

Triwantiaeth

Gall y system leihau triwantiaeth drwy gasglu gwybodaeth ar gyfer awdurdodau addysg.

"Mae'r disgyblion yn mwynhau defnyddio'r system," meddai pennaeth yr ysgol, Alwyn Thomas.

"Yn ystod y misoedd nesaf rydym yn bwriadu ei ddefnyddio drwy'r ysgol gyfan - bydd pob disgybl yn mynd i wersi a defnyddio'r sganiwr i gofrestru ar gyfer y wers honno.

"Felly os nad ydyn nhw yn y wers mae'r rhieni'n cael gwybod."

Byddai'r dechnoleg newydd yn lleihau gwaith gweinyddu mewn ysgolion.

Dywedodd rhai o ddisgyblion y chweched dosbarth bod ganddyn nhw fwy o amser yn yr ysgol o ganlyniad i ddefnyddio'r peiriant.

"Dwi'n credu bod hyn yn rhoi mwy o gyfle i ni gymdeithasu yn y bore a dwi'n meddwl ei fod yn syniad da, fel y rhan fwyaf o'r flwyddyn," meddai Emily Boobyer, un o'r disgyblion.

Dywedodd Rhiannon Williams, disgybl arall, nad oedd yn pryderu bod yr ysgol yn cadw cofnod o'i ôl bys.

O dan y cytundeb baich gwaith ddaeth i rym eleni, ni ddylai athrawon orfod gwneud tasgau beunyddiol fel cadw cofrestr a chasglu arian cinio.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^