BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Hydref 2005, 11:11 GMT 12:11 UK
Ysbyty anferth yn 'fwy effeithiol'
Ysbyty Singleton
Gwasanaethau brys: Yn gadael Ysbyty Singleton mewn 10 mlynedd?
Mae ymgynghorydd o blaid cynlluniau i uno gwasanaethau brys yn Abertawe a chreu ysbyty anferth.

Dywedodd Dr Dewi Evans, ymgynghorydd plant yn Ysbyty Singleton, y byddai canoli gwasanaeth iechyd y ddinas yn "well defnydd o arian".

Mewn cyfarfod ddydd Mercher mae'r ymddiriedolaeth iechyd yn ystyried sut mae cynnig y ddarpariaeth orau, allai gynnwys ysbyty anferth yn lle dau.

Mae'r argymhellion yn cynnig symud y gwasanaethau brys o Singleton i Dreforys o fewn 10 mlynedd.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth ei bod yn edrych ar yr holl opsiynau ac na fyddai cynlluniau pendant am flwyddyn.

Bydd misoedd o gyfarfodydd ymgynhori rhwng staff, cleifion a phartneriaid eraill.

Mae Dr Evans wedi dweud fod creu un ysbyty anferth yn gwneud mwy o synnwyr na chael dau ysbyty chwe milltir ar wahân.

"Mae'n well cael y meddygon a'r staff i gyd o dan un to," meddai.

'Arwynebol'

"Ac mae'n well i'r cleifion gan fod yr holl wasanaethau a'r arbenigedd yn yr un lle - mae'n fwy effeithiol ac yn well defnydd o'r arian."

Mae argymhelliad yn golygu y bydd Ysbyty Singleton yn cynnig gwasanaeth gofal dydd, ychydig o lawdriniaeth ac uned gofal dwys.

Byddai achosion brys ag angen gofal ac achosion cymhleth fyddai angen llawdrinaeth yn symud i Ysbyty Treforys.

Ond dywedodd Dai Lloyd, AC Plaid Cymru ar gyfer Gorllewin De Cymru, fod apêl yr argymhellion yn "arwynebol".

Dr Dewi Evans
Dr Evans: Un ysbyty anferth 'yn fwy effeithiol'

"Mae angen gwell gwasanaethau ar y ddau gan fod y rhestrau aros yn faith."

"Byddai unrhywun yn edrych ar Abertawe o'r tu allan yn teimlo fod dinas â phoblogaeth sy'n llai na 250,000 yn ei chael hi'n anodd i gyfiawnhau dau ysbyty mawr," meddai adroddiad cychwynnol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth y byddai'r argymhellion yn ystyried y gwasanaeth iechyd gorau i Abertawe yn y ganrif hon.

"Bydd y prosiect wedi ei seilio ar wasanaethau clinigol nid adeiladau."

A bydd unrhyw gais am newidiadau yn gorfod cael eu cyflwyno i'r cynulliad erbyn Hydref 2006.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^