Bu farw Dr Gwynfor Evans yn 92 oed mis Ebrill
|
Mae Urdd Myfyrwyr Aberystwyth wedi pleidleisio o blaid galw adeilad newydd ym mhrifysgol y dref ar ôl cyn-lywydd Plaid Cymru.
Mae'r penderfyniad yn cefnogi galwad tebyg gan Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) i alw adeilad newydd yr adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yn y coleg yn Adeilad Gwynfor Evans.
Mae bwriad i greu deiseb arlein ar wefan swyddogol yr urdd yn fuan er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd ddatgan eu cefnogaeth i'r ymgyrch. Mae'r gwaith o godi'r adeilad newydd eisoes wedi cychwyn.
Dywedodd Stephen Hughes, Llywydd UMCA : "Rydym yn falch iawn o glywed fod trwch o'r myfyrwyr yn y Brifysgol yn cefnogi galwad UMCA, gan ein bod ni yn credu yn gryf y dylid anrhydeddu enw Gwynfor Evans, gan iddo aberthu cymaint dros ein cenedl a thu hwnt.
AS cyntaf Plaid Cymru
"Mae gan gynifer o fyfyrwyr gymaint o barch tuag ato oherwydd ei waith caled dros yr iaith a Chymru, ac hefyd mae parch enfawr tuag ato oherwydd ei waith brwd yn hybu heddwch trwy'r byd, a'i waith caled ym mudiad CND Cymru."
Bydd UMCA a'r Urdd yn awr yn pwyso ar awdurdodau'r brifysgol i wrando ar farn y myfyrwyr.
Dywedodd Rhys Llwyd, Swyddog Iaith Gymraeg Urdd Myfyrwyr Aberystwyth: "Mae'n hollol amlwg o ystyried y mwyafrif a bleidleisiodd o blaid y cynnig fod y myfyrwyr yn frwd iawn ynghylch y mater".
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol fod y coleg yn croesawu awgrym y myfyrwyr, ond nad ydi'r broses o ddewis enw ar gyfer yr adeilad newydd wedi cychwyn eto.
Bu farw Gwynfor Evans ym mis Ebrill yn 92 oed.
Fe oedd aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru ar ôl ennill is-etholiad yng Nghaerfyrddin yn 1966.
Chwaraeodd rhan flaenllaw ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol Cymru trwy ail hanner yr ugeinfed ganrif gan arwain yr ymgyrchoedd yn erbyn boddi Cwm Celyn ac o blaid sefydlu S4C.