Mae Scrabble yn Gymraeg ar werth mewn siopau
|
Mae un o'r gêmau bwrdd mwya poblogaidd ar werth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cwmni Mattel sydd wedi creu fersiwn Cymraeg o'r gêm Scrabble sy'n defnyddio llythrennau dwbwl nodweddiadol fel FF, DD a RH.
Mae'r cwmni wedi cynhyrchu 2,500 o'r gêm i gychwyn gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru a'r gobaith yw apelio at siaradwyr rhugl a dysgwyr.
Dywedodd Dewi Morris Jones o'r cyngor llyfrau fod y syniad o greu Scrabble yn Gymraeg wedi cael ei drafod ers rhai blynyddoedd.
Cydweithiodd y cyngor yn agos â Leisure Trends, sy'n hawlio trwydded y gêm, i greu'r cyfuniad cywir o lythrennau a phwyntiau.
To bach
Cafodd miliwn o eiriau o Eiriadur Cymraeg Prifysgol Cymru yn ogystal â 800,000 o eiriau o'r Beibl Cymraeg eu llwytho gan gyfrifiadur.
Ac un pwynt yn unig yw gwerth llythrennau fel Y ac W sy'n gyffredin yn y Gymraeg.
Bydd llythrennau dwbwl fel NG a RH yn golygu 10 pwynt ond un pwynt yw gwerth y llythyren DD.
Mae rheolau'r gêm Gymraeg yn atal chwaraewyr rhag defnyddio geiriau wedi eu treiglo.
Ac mae'r llythyren J wedi ei chynnwys - er nad yw'n perthyn yn swyddogol i'r wyddor Gymraeg mae'n ymddangos yn gyson mewn geiriau fel garej a jambori.
Poblogiadd
Fodd bynnag, ni fydd y darnau yn cynnwys llafariaid gyda thoeau bach, er gwaetha'r ffaith fod to bach yn newid ystyr ambell i air - 'mor' a 'môr' yn un enghraifft.
"Bu tipyn o drafod ynghylch hynny," meddai Dewi Morris Jones. "Fel mater o egwyddor, byddwn i wedi hoffi cael to bach, ond gan nad yw'n cael ei ddefnyddio'n helaeth byddai wedi amharu ar y gêm."
Ychwanegodd nad oedd wedi chwarae Scrabble lawer yn y gorffennol ond y byddai'n fwy tebygol o'i chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ôl Mattel, Scrabble yw'r gêm fwrdd eiriol fwyaf poblogaidd y byd.
Mae'r gêm mewn 29 o ieithoedd ac mae 100m wedi eu gwerthu, meddai'r cwmni.