BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 1 Mawrth, 2005, 16:58 GMT
Gorymdaith i gofio'n nawddsant
Gorymdeithwyr yng Nghaerdydd
Mae rhai o'r gorymdeithwyr yn cefnogi ymgyrch i gael gwyliau cyhoeddus ar Fawrth 1af

Mae dathliadau Dydd Gŵyl Dewi wedi denu cannoedd er gwaetha'r tywydd gwlyb yn y gogledd a'r de.

Daeth tua 600 i'r brifddinas i orymdeithio a llawer wedi gwisgo mewn gwisg draddodiadol a chiltiau.

Ac mae trefnwyr yn gobeithio wnaiff y dathlu roi hwb i'r ymgyrch am i Fawrth 1af fod yn ddiwrnod o wyliau cyhoeddus.

Ym Mae Colwyn roedd trigolion wedi paratoi delw o Ddewi Sant i arwain eu gorymdaith drwy'r dref.

Roedd trefnwyr Caerdydd wedi gobeithio cynyddu'r nifer o bobl a ymunodd yn y dathliadau, ond tua 600, yr un maint ‚ llynedd ddaeth oherwydd tywydd gwael.

Ymgyrch

"Roedd y tywydd yn annifyr ond roedd pawb mewn hwyliau da iawn," dywedodd Henry Jones-Davies, un o'r trefnwyr, o Nantgaredig ger Caerfyrddin.

"Ddaeth llawer iawn o bobl mewn ciltiau a nifer o ferched mewn gwisg draddodiadol Gymreig," ychwanegodd.

Mae Mr Jones-Davies yn ran o ymgyrch i gael Mawrth 1af yn ddiwrnod o wyliau cyhoeddus.

"Rydym am i bawb ddal ati i ysgrifennu at eu aelodau seneddol er mwyn cadw'r pwysedd yn gyson," dywedodd.

Gorffenodd yr orymdaith tu allan i'r Amgueddfa Genedlaethol ym Mharc Cathays, lle rhoddwyd fendith gan Esgob Daniel Mullins a'r Parchedig Aled Edwards.

Daeth nifer o aelodau'r cynulliad o nifer o bleidiau hefyd i gymeryd rhan.

Dathlu

... efallai y bydd y bobl bwysig yn dechrau sylweddoli bod y Cymry am gael diwrnod o ŵyl cenedlaethol
Yr Athro Hywel Teifi Edwards

"Rydyn ni am i bobl gael hwyl oherwydd y gerddoriaeth a'r baneri," meddai Henry Jones-Davies.

"Mae'r Gwyddelod yn dathlu San Padraig ac mae'n hen bryd i ni ddathlu."

Dywedodd nad oedd yr orymdaith yn wleidyddol a'i bod yn gyfle i bobl Cymru, beth bynnag oedd eu cefndir, ddathlu diwylliant Cymru.

Ymhlith y gorymdeithwyr roedd cerddorion, dawnswyr gwerin, saethwyr ac aelodau o "Gatrawd y Ceffyl Cymreig," llu oedd yn bodoli yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Costau

Dywedodd yr Athro Hywel Teifi Edwards:

"Dwi'n un sy'n credu gant y cant y dylem gael diwrnod o wyliau cenedlaethol.

"Efallai y bydd y bobl bwysig yn dechrau sylweddoli bod y Cymry am gael diwrnod o ŵyl cenedlaethol."

"Llywodraeth San Steffan sy'n gyfrifol am ganiatŠu i Gymru gael diwrnod o wyliau cenedlaethol ar Ddydd Gŵyl Dewi," meddai Mr Jones-Davies.

"Does gan Lywodraeth y Cynulliad ddim grym i awdurdodi hyn."

Gwrthododd Llywodraeth San Steffan gais Llywodraeth y Cynulliad i ganiatŠu i Fawrth 1 fod yn ddiwrnod gŵyl yng Nghymru yn 2002.

Honnodd San Steffan y byddai'n golygu costau ychwanegol i fusnesau.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^