Ofnau: Y ffliw'n croesi ffiniau
|
Byddai'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd i ddelio â ffliw adar pandemig, medd arbenigwr.
Er y gallai'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru addasu at sawl her, byddai pandemig yn achosi problemau mawr, meddai Roland Salmon o'r uned gwylio yng Nghaerdydd.
"Os y cwestiwn yw 'a ydym yn barod ar gyfer ffliw pandemig?,' byddai pob adran y llywodraeth yn dweud 'Na'.
"A byddai'r adrannau'n dweud 'ond rydym wrthi'n paratoi'."
Bu'r achosion cynta o ffliw adar ymhlith pobl yn Hong Kong yn 1997.
Mae achosion ynysig o'r ffliw'n lledu o berson i berson wedi bod yn Hong Kong a Vietnam ond heb eu cadarnhau.
Ofnau arbenigwyr yw ffliw adar arwain at bandemig ffliw.
Chwarter poblogaeth
Mae Prydain wedi bod yn casglu cyffuriau gwrthfeirysol - digon i roi triniaeth i chwarter y boblogaeth.
Dywedodd Dr Salmon y byddai'n anodd iawn trefnu fod y cyffuriau'n cyrraedd y rhai fyddai eu hangen.
"Yr her fyddai sicrhau fod y cleifion yn cael triniaeth o fewn 48 awr. Bydd hwn yn golygu trefnu ar raddfa fawr.
Yn Chwefror rhybuddiodd swyddog Mudiad Iechyd y Byd fod y byd "o dan fygythiad" oherwydd pandemig ffliw'r adar.
Dywedodd Dr Shigeru Omi, pennaeth y mudiad yng ngorllewin y Môr Tawel, y dylai llywodraethau baratoi a darparu gwasanaethau cyhoeddus sylfaenol rhag ofn y byddai pandemig byd-eang.
Bydd mwy am y stori ar The Politics Show ar ddydd Sul am 1200