Mae'r Eisteddfod mewn argyfwng ariannol
|
Mae ffrae rheol Gymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dod i ben.
Roedd mudiad Cylch yr Iaith wedi cwyno am ddrafft cynta cyfansoddiad newydd yr Eisteddfod ac wedi honni nad oedd y rheol Gymraeg yn ddiogel.
Ond mae Cylch yr Iaith wedi croesawu'r drafft diweddara ac mae'n falch na fydd modd newid na dileu'r rheol.
Dywedodd yr Eisteddfod ei bod yn fodlon fod y dadlau ar ben.
Mae'r rheol wedi bod yn destun dadlau ers blynyddoedd.
Roedd Cylch yr Iaith wedi anfon llythyr at holl aelodau Llys yr Eisteddfod yn tynnu eu sylw at "fygythiad" i'r rheol.
Roedd y drafft gwreiddiol yn dweud y byddai modd newid neu ddileu'r rheol pe bai pob aelod o Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod a phob aelod o'r cyngor a thri chwarter aelodau'r llys o blaid hynny.
Mae drafft diweddara'r cyfansoddiad yn datgan mai'r "Gymraeg fydd iaith yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ŵyl ac na ellir newid na diddymu'r cymal hwnnw o dan unrhyw amgylchiad".
'Llawenydd'
"Mae cymal diamod "na ellir newid y cymal iaith o dan unrhyw amgylchiad" yn y cyfansoddiad presennol, wedi cael ei ailsefydlu ac mae hyn yn destun llawenydd i garedigion y Gymraeg a diwylliant Cymru," meddai ysgrifennydd Cylch yr Iaith, Y Prifardd Ieuan Wyn.
"Rydan ni'n croesawu cadarnhad y bydd pwyllgor gweithredu'r rheol Gymraeg am fod hyn yn fater o bwys gan roi ystyr yr Ŵyl yng nghyd-destun y cymal "yr Eisteddfod a'r Ŵyl" yn golygu'r Maes a holl weithgareddau'r Eisteddfod cyn ac ar ôl yr wythnos."
Elfed Roberts: Yn falch bod y dadlau ar ben
|
Un arall oedd wedi poeni am y rheol iaith oedd yr Archdderwydd Robin Llŷn.
"Dwi wedi edrych ar y memorandwm ac ar y rheolau. Dwi'n hapus efo "na ellir newid y cymal o dan unrhyw amgylchiad" ac allwch chi ddim bod yn fwy absoliwt nag absoliwt," meddai.
"Mater wedyn fyddai ei weithredu.
"Roeddwn i'n un o'r rhai oedd yn gwrthwynebu mynd â'r Eisteddfod i Lerpwl o dan unrhyw amgylchiad.
"Dwi'n meddwl y dylid ychwanegu "yng Nghymru" at y cymal "y bu hyrwyddo a diogelu Cymru a'r iaith Gymraeg drwy gynnal gŵyl genedlaethol yn flynyddol" fel na ellir ei chynnal y tu allan i Gymru."
'Diogelu'n gwirfoddolwyr'
Dywedodd cyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, ei fod yn falch fod pawb yn fodlon.
"Doedd hi erioed yn fwriad ganddon ni i wneud y rheol iaith yn fwy gwan nag y mae hi, neu fel y mae hi yn y cyfansoddiad presennol...
"Mae hyn yn profi bod 'na gefnogaeth gre iawn i'r rheol iaith ac i ddiogelu hynny."
Dywedodd Dr R Alun Evans, Llywydd Llys yr Eisteddfod, fod y rheol wedi cael ei symleiddio.
"Dydy'r dystiolaeth o ran y stondinwyr sydd eisiau dod i Eryri eleni ddim yn gweld rhwystr gyda'r rheol a dyna ydy bwriad yr Eisteddfod, a holl ethos yr Eisteddfod ac mae'r geiriad wedi ei symleiddio. Dwi'n meddwl y bydd y llys yn fwy bodlon gyda'r geiriad newydd.
"Fe fydd yn rhaid bod yn effro i holl ofynion y rheol fel y mae'n sefyll a dwi'n falch iawn na fu hi erioed, fel y dywedodd Elfed, yn fwriad i wanhau'r rheol.
"Ymgais oedd y drafft i sicrhau fod y rheol yn cael ei diogelu."
Bydd y cyfansoddiad yn cael ei drafod gan aelodau Cyngor yr Eisteddfod ond aelodau'r llys fydd yn penderfynu'n derfynol.