BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 23 Chwefror 2005, 11:30 GMT
Seryddwyr yn canfod galaeth newydd
Llun o alaeth anweledig
Dim ond trwy ddefnyddio tonfeddi radio y gellir 'gweld' galaeth anweledig

Mae seryddwyr yn dweud eu bod wedi canfod beth maent yn credu yw galaeth anweledig newydd.

Mae'r tîm, sy'n cael eu harwain gan Brifysgol Caerdydd, yn honni mai dyma'r cyntaf i'w chanfod sydd wedi ei wneud o fater tywyll.

Ardal o fewn y bydysawd yn cynnwys cyfanswm mawr o fás sy'n troi fel galaeth ond nad yw'n cynnwys sêr yw galaeth dywyll.

Cafodd ei darganfod 50 miliwn o flynyddoedd goleuni i ffwrdd drwy ddefnyddio telesgopau radio yn Sir Gaer a Puerto Rico.

Mae'r deunydd y credir ei fod yn cadw'r galaethau tywyll ynghŷd yn cael ei adnabod fel 'mater tywyll'.

Ond dyw gwyddonwyr ddim yn gwybod llawer o hyd ynglŷn â beth yw yn union.

Mae'r ymchwil pum mlynedd wedi golygu astudio dosbarthiad atomau hydrogen drwy'r bydysawd, drwy edrych ar y modd y mae galaethau'n troi a'r cyflymdra y mae eu helfennau'n troi.

Mae nwy hydrogen yn rhyddhau ymbelydredd all gael ei adnabod drwy donfeddi radio.

Yng nghlwstwr galaethau Virgo fe wnaethon nhw ddarganfod más o atomau hydrogen oedd 100 miliwn gwaith yn fwy na más yr haul.

Mae'r galaeth newydd wedi ei alw'n VIRGOHI21.

'Cyffrous'

Yn y gorffennol darganfyddwyd fod gwrthrychau tebyg oedd wedi eu canfod yn cynnwys sêr neu'n weddillion dwy alaeth yn gwrthdaro.

Ond ni ddaeth gwyddonwyr o Brydain, Ffrainc, yr Eidal ac Awstralia o hyd i unrhyw olion o sêr a doedd dim galaethau gerllaw i awgrymu gwrthdrawiad y tro hwn.

"O'i gyflymdra fe wnaethon ni sylweddoli fod y VIRGOHI21 1,000 gwaith yn fwy na'r hyn y gellid cyfri amdano drwy'r atomau hydrogen yn unig," meddai Dr Robert Minchin, o Brifysgol Caerdydd.

"Pe bai'n alaeth arferol yna byddai'n eithaf llachar a byddai modd ei gweld gyda thelesgôp amateur da."

Dywed seryddwyr ei bod yn anodd astudio gwrthrychau tywyll a chudd y bydysawd oherwydd fod y ddaear yn agos i'r haul.

"Mae gan y bydysawd bob math o gyfrinachau i'w datgelu i ni o hyd, ond mae hyn yn dangos ein bod yn dechrau deall sut i edrych arno yn y ffordd gywir," meddai Dr Jon Davies, aelod arall o dîm Caerdydd.

"Mae'n ddarganfyddiad cyffrous iawn."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^