Rhiannon Hughes yn cyhoeddi bwriad y cyngor i ollwng eu cynlluniau
|
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud ei fod gollwng dros dro gynlluniau i gau hyd at 14 o ysgolion cynradd.
Dywedodd arweinydd y cyngor wedi cyfarfod fore Mawrth fod angen ail-asesu'r sefyllfa cyn unrhyw benderfyniadau.
A dywedodd Rhiannon Hughes fod rhaid trafod ag ysgolion a chymunedau.
Clywodd hyd at 150 o rieni a phrotestwyr am benderfyniad y cyngor y tu allan i'w bencadlys yn Rhuthun.
Mae gan Siân Hughes dri o blant sy'n mynd i ysgol Prion, oedd dan fygythiad.
Nid yw'n credu y bydd y bydd yn cael ei gau mwyach.
"Mae'n wych...fe fyddwn ni'n cadw llygad barcud ar y cyngor," meddai.
Ond dywedodd Mavis Holder, un o lywodraethwyr Ysgol Dyffryn Iâl, sydd â safleoedd ym Mryneglwys a Llandegla nad yw cyhoeddiad ddydd Mawrth yn golygu fod yr ysgol wedi ei hachub.
Synnu
"Dydw i ddim yn credu ei fod (y cynllun) wedi ei dynnu'n ôl yn llwyr. Dwi'n credu y byddan nhw'n mynd yn ôl ac ymgynghori gyda'r ysgolion a'r rhieni," meddai.
Yn gynharach yr wythnos hon roedd y cynghorydd oedd yn gyfrifol am addysg yn Sir Ddinbych wedi dweud ei fod yn poeni am y bwriad i gau neu uno 14 o ysgolion cynradd.
Dywedodd Dewi Owens, aelod o gabinet y sir, ei fod yn synnu at y cynigion ac y byddai'n erbyn cau unrhyw ysgol oni bai bod rhaid gwneud hynny.
Roedd y cyngor wedi dweud fod gostyngiad yn nifer y disgyblion yn golygu y byddai tua 1,600 o leoedd gwag erbyn 2006.
Yn wreiddiol, y bwriad oedd codi tair ysgol newydd ym Mhrestatyn, Rhuthun a'r Rhyl.
Lleoedd gwag
Roedd y cyngor, sy'n gyfrifol am 52 o ysgolion, wedi dweud fod gormod o blant yn rhai o ysgolion yr arfordir a lleoedd gwag mewn ysgolion eraill.
Yn y cyfamser ddydd Mawrth bu Cyngor Sir y Fflint yn edrych ar adroddiad y Comisiwn Archwilio sy'n nodi fod angen adolygu ei bolisi ar ysgolion bach.
Mae 18 ysgol gynradd yn Sir y Fflint gyda llai na 100 o ddisgyblion ar y gofrestr ac mae saith ohonyn nhw yn ysgolion eglwys.
Mae gan wyth ysgol gynradd fwy na 25% o lefydd gwag.
Hefyd mae pum ysgol uwchradd gyda llai na 700 o ddisgyblion.
Dyma oedd dechrau ar y broses o ystyried dyfodol eu hysgolion yno.
Er nad oes 'na gynlluniau i gau unrhyw ysgol yno ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn adolygu'r polisi ar ysgolion bach.