John L Williams sefydlodd Undeb y Gymraeg
|
Mae cofeb i John Lasarus Williams, fu farw y llynedd yn 79 oed, wedi ei dadorchuddio mewn ysgol ar Ynys Môn nos Lun.
Undeb y Gymraeg, yr undeb a sefydlodd, sydd wedi rhoi'r gofeb a gafodd ei dadorchuddio yn llyfrgell Ysgol David Hughes, Porthaethwy.
Cafodd John L, fel y câi ei adnabod, ei eni yn Llangoed, Ynys Môn, ond bu'n byw am ran fwya ei oes yn Llanfairpwll.
Roedd yn gynghorydd adeg cyngor sir yr hen Wynedd ac yn ymgeisydd Plaid Cymru ar yr ynys.
Yn y seremoni nos Lun fe fu'r awdur R Cyril Hughes yn talu teyrnged iddo cyn i'r Cynghorydd John Meirion Davies ddadorchuddio'r gofeb, llechen wedi ei llunio gan Robin Hughes a'i fab o Langefni.
'Cyfraniad enfawr'
Bu Cyfarwyddwr Addysg Ynys Môn Richard Parry Jones yn annerch a cafodd blodau eu cyflwyno i weddw Mr Williams, Mrs Beti Williams.
"Dros y blynyddoedd mae cyfraniad John Lasarus Williams wedi bod yn enfawr," meddai Ysgrifennydd Undeb y Gymraeg, Mr Eifion Williams.
Ar y gofeb mae englyn gan y Prifardd Ieuan Wyn
|
"Roedd yn un o'r arloeswyr o'r dechrau ac un o'r rhai a sefydlodd bolisi dwyieithog Gwynedd.
"Fo sefydlodd Undeb y Gymraeg sydd wedi bod yn gweithio yn y cefndir dros y blynyddoedd o ran yr iaith drwy ysgrifennu llythyrau perswâd a chael sefydliadau i ddefnyddio'r Gymraeg.
"Helynt ffatri Brewer Spinks yn Nhanygrisiau oedd yn gwrthod yr hawl i weithwyr siarad Cymraeg a'i sbardunodd i sefydlu'r undeb yng nghanol y chwedegau.
"Sefydlodd Sioe Gymraeg y Borth er mwyn dangos ei bod yn bosib cynnal sioe amaethyddol yn y Gymraeg ac yna Primin Menai, sioe anifeiliaid yn gweithredu yn y Gymraeg," meddai Mr Williams.
Cyn ddisgybl
"Diolch i'r undeb ac i John L yn arbennig mae nifer o sioeau amaethyddol yn gweithredu'n ddwyieithog heddiw.
"Roedd yn ymgeisydd Seneddol ym Môn ar ran Plaid Cymru a bu'n ddarlithydd yn Adran Gymraeg y Coleg Normal," meddai.
Beti Williams, ei weddw, gyda'r gofeb
|
Mae'r gofeb yn Ysgol David Hughes a bu John L. Williams yn ddisgybl yn yr ysgol wreiddiol, Ysgol Ramadeg Biwmares
Bu'n bennaeth Adran Gymraeg yr ysgol yn ddiweddarach ac yn llywodraethwr.
Hefyd bu'n bennaeth adran Gymraeg Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Ysgrifennodd sawl llyfr, gan gynnwys ei atgofion Crwsâd Drwy Berswâd, Llanfair Pwllgwyngyll - Hen Enwau a Lluniau'r Lle, Syr John Morris-Jones (1864-1929) a Land of the Long, Long Name.
Fe oedd golygydd y gyfrol Ysgrifau Llenorion.
Hefyd: