Adfail yw hen gartref Dr Kate Roberts ar hyn o bryd
|
Mae ymgyrchwyr sydd wedi bod yn brwydro i sefydlu canolfan i goffáu un o nofelwyr mwyaf adnabyddus Cymru yn dathlu wedi iddyn nhw gael arian ar gyfer y cynllun.
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi cytuno i roi cymhorthdal o £656,000 i adfer hen gartref y nofelydd Dr Kate Roberts yn Rhosgadfan ger Caernarfon.
Ar ôl ymgyrch sydd wedi para 40 mlynedd deellir fod disgwyl i'r ganolfan agor i'r cyhoedd y flwyddyn nesaf.
Bydd y prosiect, a fydd yn costio tua £900,000 i gyd, hefyd yn cynnwys canolfan ddehongli aml gyfryngol a neuadd gymuned ac mae disgwyl y bydd yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Ym mhentref chwarelyddol Rhosgadfan y treuliodd Dr Kate Roberts ei phlentyndod ac roedd ardal y Lôn Wen gerllaw yn ysbrydoliaeth i lawer o'i nofelau a'i straeon byrion.
Adfail yw ei hen gartref, Cae'r Gors, ar hyn o bryd ond mae Cyfeillion Cae'r Gors wedi bod yn ymgyrchu i'w adfer.
Bydd y gwaith atgyweirio'n dechrau ymhen ychydig wythnosau a'r bwriad yw adnewyddu'r bwthyn i'r cyflwr gwreiddiol.
'Brwydr galed'
"Mae wedi bod yn frwydr galed ond mae'n werth o ar ôl cael y newyddion yma," meddai Dewi Tomos, Cadeirydd Cyfeillion Cae'r Gors.
"Mae'n llenor, un o'r goreuon yr ydan ni wedi ei gael yn yr iaith Gymraeg erioed, ond mae'n llenor o bwysigrwydd eang hefyd ac mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i sawl iaith."
Treuliodd Dr Kate Roberts ei phlentyndod yn Rhosgadfan
|
Yn ogystal ag ail-greu'r hen gartref fe fydd yma ganolfan ddehongli yn olrhain hanes y wraig sy'n cael ei hadnabod fel 'Brenhines ein Llên' a bro'r chwareli'n gyffredinol a bydd ystafell ar gyfer defnydd y gymuned.
Mae disgwyl i'r cynllun roi hwb economaidd i'r ardal hefyd a'r gobaith yw y bydd yn denu nifer o ymwelwyr gan roi profiad byw o hanes, llenyddiaeth a threftadaeth.
"Rydyn ni'n rhagweld y bydd tua 3,000 o bobl yn gwneud defnydd o'r safle bob blwyddyn ac mae hynny'n cynnwys nifer fawr o ysgolion, grwpiau llenyddol a hanesyddol," meddai Sharon Owen, Swyddog Prosiect Cae'r Gors.
Dywedodd y bydd gan y ganolfan wefan a fydd yn "mynd â'r stori anhygoel i bob cwr o'r byd".
Gweithdai
"Rydyn ni eisoes wedi sefydlu cysylltiadau gyda phrifysgolion yn Nulyn, Heidelberg a Jeriwsalem ac mae ganddon ni gefnogwyr brwd yn Japan a Ffrainc," meddai.
Dywed Cronfa Treftadaeth y Loteri y bydd yr arian hefyd yn galluogi Cyfeillion Cae'r Gors i wella mynediad i'r safle a chynnal amryw o weithgareddau gan gynnwys teithiau o gwmpas yr ardal a'r cynefinoedd lleol.
"Mae hwn yn brosiect gwerth chweil a fydd yn cyflwyno etifeddiaeth lenyddol i gynulleidfa amrywiol," meddai Jennifer Stewart, Rheolwr Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru.
"Dyma'r union fath o gynllun a fydd yn hybu adfywio ac yn dod â budd parhaol i'r gymuned leol yn nhermau cyflogaeth ac addysg," meddai.