Cafodd rali brotest ei chynnal y penwythnos diwethaf
|
Roedd tua 500 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mlaenau Ffestiniog nos Iau i fynegi eu pryderon am y cynlluniau ar gyfer ysbyty cymunedol y dref.
Mae ymgyrchwyr yn gwrthwynebu'r holl opsiynau sydd wedi eu cyflwyno gan Fwrdd Iechyd Lleol Gwynedd sy'n cynnwys cael gwared o'r 17 gwely yn Ysbyty Coffa'r dref.
Dyma oedd diwedd ar y cyfnod ymgynghori ac fe glywodd y trigolion ddadansoddiad o'r prif bwyntiau a chwestiynau oedd wedi eu codi gan bobl leol dros yr wythnosau diwethaf.
Dywed swyddogion iechyd fod angen y newid i sicrhau fod y cyfleusterau'n addas ar gyfer y dyfodol ac nad ydi'r ysbyty yn "darparu gwasanaeth mewn ffordd effeithiol".
Ychwanegodd bod adeilad yr ysbyty, a godwyd yn 1925, yn "anaddas o ran cynllun y wardiau ac o ran sicrhau preifatrwydd cleifion."
Daeth y cyfarfod yn Ysgol y Moelwyn wedi rali dros y Sul lle'r oedd dros 1,000 o bobl yn protestio ac roedd neges y trigolion yn glir.
"Tydi'r bobl yn y neuadd heno nac yn y cylch tu allan ddim yn mynd i sefyll o'r neilltu a gwylio chi yn gwrthod gwasanaeth yr ysbyty goffa yma," meddai Dwynwen Thomas,
"Rydan ni'n mynd i'w chadw hi a edrych ar ôl y bobl yn y gymuned lle maen nhw i fod i gael y gofal."
Mae'r bwrdd yn bwriadu torri'r holl gyfleusterau cleifion mewnol yn yr ysbyty, cynyddu'r gofal cartref gan gadw'r uned mân anafiadau a gwasanaethau pelydr-x a throsglwyddo'r gwasanaethau mewnol i Ysbyty Bron-y-Garth, Penrhyndeudraeth ac yn ddiweddarach i ysbyty newydd Porthmadog.
Cadw gwasanaethau
Ond mae cefnogwyr yr ysbyty yn dadlau y dylai bod mwy, nid llai, o gyfleusterau ar gael.
Roedd pleidlais y gynulleidfa yn ffafrio cynnig pwyllgor amddiffyn yr ysbyty i ehangu'r adnoddau a chadw'r gwelyau.
Roedd cannoedd yn y cyfarfod cyhoeddus
|
Geraint Vaughan-Jones gyflwynodd y cynnig oedd yn nodi yr hyn y mae'r trigolion lleol am ei weld yn yr ysbyty.
"Rydan ni'n galw am gadw ac adeiladu ar y ddarpariaeth sydd yn yr ysbyty goffa," meddai.
"Rydym am gadw'r clinig pleydr-x sydd ganddon ni a sicrhau bod y ganolfan ambiwlans yn aros yn y dref."
Dywedodd hefyd eu bod yn awyddus i adfer y gwasanaeth mân anafiadau 24 awr yn yr ysbyty yn hytrach na gorfod teithio i Benrhyndeudraeth neu yn bellach.
Gofal cartref
"Byddem yn hoffi gweld y clinig ffisiotherapi ar Ffordd Towyn yn ail agor oherwydd does 'na ddim rheswm pam bod hwnnw wedi cau," ychwanegodd.
"Rydym yn awyddus hefyd i adfer y clinigau arbenigol ddaeth i ben yn ddiweddar heb rybudd a sefydlu uned loren arennol, rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd."
Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod ers i'r bwrdd gyhoeddi cynlluniau ym mis Gorffennaf.
Mewn adroddiad ar adolygiad yr ysbytai nododd pennaeth gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Gwynedd, Glyn Hughes, y byddai cael gwared o'r gwelyau yn golygu "y bydd angen mwy o gymorth ar ofalwyr."
Dywedodd y bwrdd y byddai'r ad-drefnu yn gwella gwasanaethau iechyd gan gynnwys "tîm o nyrsys, therapyddion a gweithwyr cymdeithasol i ddarparu cefnogaeth ac adferiad gartref, gwasanaeth ar gyfer y galon, gwasanaeth camddefnyddio sylweddau, gofal lliniarol gartref a rheoli clefydau parhaol".
Fe fydd y bwrdd yn edrych ar yr ymateb mae wedi ei dderbyn yn ystod y broses ymgynghori cyn cyhoeddi adroddiad ar Dachwedd 3.
"Mae'r bwrdd wedi gweithio'n galed dros yr haf yn gwrando ar bobl y cylch a does 'na ddim penderfyniad eto," meddai Claire Jones ar ran y bwrdd.
"Fe fyddwn ni a Chyngor Iechyd Meirionnydd yn mynd dros bob consýrn a sylw cyn dod i benderfyniad."
Os na ddaw cytundeb rhwng y bwrdd a'r cyngor fe fydd y mater yn cael ei drosglwyddo i'r cynulliad.