Mae'r gynghrair yn honni nad yw'r Ddeddf Seneddol yn ddilys
|
Mae cefnogwyr hela wedi colli rownd ddiweddara eu her gyfreithiol i'r ddeddf yn gwahardd hela â chŵn.
Roedd y Gynghrair Cefn Gwlad wedi honni nad oedd Deddf Seneddlol 1949, a ddefnyddiwyd gan ASau i gyflwyno'r Ddeddf Hela wedi gwrthwynebiad gan Dŷ'r Arglwyddi, yn ddilys.
Ond dyfarnodd y Llys Apêl ddydd Mercher fod y ddeddf yn ddilys a gwrthododd hawl i'r grŵp apelio.
Bydd y gwaharddiad felly yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr ddydd Gwener.
Roedd y Gynghrair Cefn Gwlad yn apelio yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys ar Ionawr 28 pan ddywedodd yr Arglwydd Ustus Maurice Kay a Mr Ustus Collins ei bod yn eglur fod Deddf 1949 yn ddilys a'r deddf yn gwahardd hela yn gyfreithlon.
Dydd Mercher fe ddywedodd tri o farnwyr y Llys Apêl fod yr her i'r ddeddf 1949 yn "anarferol ac o bosib yn y cyfnod modern heb gynsail."
Ond fe ddyfarnon nhw eto fod y Ddeddf Seneddol yn ddeddfwriaeth ddilys.
Fe wrthodon nhw hawl i'r Gynghrair Gefn Gwlad i apelio i Dŷ'r Arglwyddi gan ddweud y byddai'n codi gormod o ansicrwydd ynglŷn â statws y Ddeddf Hela.
'Torri'r gwaharddiad'
Dywedodd y gynghrair y bydd yn gwneud cais brys yn uniongyrchiol i Dŷ'r Arglwyddi i glywed eu hapêl.
Ond hyd yn oed pe bai'r Arglwyddi yn cytuno i'w cais, ni fyddai'n cael ei glywed mewn digon o amser i atal y gwaharddiad.
Yn gynharach dywedodd y gynghrair fod tua 50,000 o bobol yn barod i dorri'r gwaharddiad a pharhau i hela "gan wybod y byddan nhw'n cael eu harestio."
Roedd nifer o helwyr Cymru'n siomedig â'r dyfarniad ddydd Mercher.
"Rydan ni'n siomedig iawn o glywed beth sydd wedi digwydd," meddai Emyr Lewis o Helfa Plas Machynlleth.
"Rydw i'n ffermwr yma ac mae ganddon ni ddefaid ac ŵyn ac mae'n rhaid i ni edrych ar eu holau ac mae llwynogod yn lladd yr ŵyn.
"Y llynedd roedden ni'n gorfod mynd allan bron bob dydd er mwyn atal be mae'r llwynog yn ei wneud.
"Bydd ganddon ni hawl i fynd i hela gyda dau gi o hyd ac mae amser yr hela'n dod i ben ddiwedd y mis am y flwyddyn ac rydyn ni'n gobeithio dros yr haf y bydd datblygiad fel y gallwn fynd allan gyda mwy na dau gi."
Dywedodd Brychan Llŷr, aelod o Helfa Llangeinor oedd allan yn hela ddydd Mercher, fod "teimlad yn gryf ymhlith yr helwyr y bydd hela eto dydd Sadwrn a sawl dydd Sadwrn wedi hynny ond mae'r gyfraith wedi newid."
'Creulon'
"Dwi'n deall mai'r hyn y bydd yr helfa yn ei wneud yw mynd mas i hela ar drywydd."
Dywed y bydd hyn yn golygu fod rhywun yn llusgo llwynog drwy lwybr a bydd yr helwyr yn dilyn y llwybr hwnnw.
Ond os bydd y cŵn yn mynd ar ôl llwynog dywedodd y bydden nhw'n dilyn y llwybr hwnnw.
"Fe fyddwn ni'n parhau i hela a gwneud hynny o fewn y gyfraith," meddai.
Mae Glenda Jones, o Ynys Môn, sy'n gwrthwynebu hela, yn croesawu'r dyfarniad ond roedd yn disgwyl rhywbeth mwy eglur, meddai.
"Mae'n gam i'r cyfeiriad iawn ond mae gormod o lefydd llwyd ynddo," meddai.
"Rydan ni'n ei weld yn greulon iawn i ddilyn un llwynog ar draws caeau a thrwy afonydd ac wedyn ei ladd yn y diwedd, dydyn ni ddim yn gweld hynny'n sbort."
Fe gollodd cefnogwyr hela eu brwydr gyfreithiol yn yr Uchel Lys yn Llundain ar Ionawr 28 ond cafodd ymgyrchwyr hawl i apelio yn erbyn y dyfarniad.
Roedd yr alwad am adolygiad barnwrol yn enw cadeirydd y Cynghrair Cefn Gwlad, John Jackson, a Mair Hughes, o Gilfach Goch, gwraig Meistr Helfa Llangeinor.
Ond mae grwpiau hawliau anifeiliaid wedi croesawu'r gwaharddiad sydd i fod i
ddod i rym ar Chwefror 18.
Dywedodd y grŵp gwrth hela, y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon, y
bydd yn monitro'r gwaharddiad.