BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 20 Medi 2005, 17:31 GMT 18:31 UK
Buddsoddiad newydd yn ffatri Sony
Howard Stringer (chwith) gydag arlywydd Sony Ryoji Chubachi
Daeth Syr Howard Stringer yn brif weithredwr y cwmni eleni

Mae cwmni Sony am fuddsoddi yn eu ffatri ym Mhen-coed ger Pen-y-bont ar Ogwr lle mae 250 o weithwyr yn dal i weithio ar ôl cyhoeddiad am ddiswyddiadau yn gynharach eleni.

Bydd cyfarpar yn cynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch ar gyfer stiwdio teledu a ffilm.

Gallai'r ffatri hefyd droi'n brif safle cynnal a chadw Prydain ar gyfer cynnyrch y cwmni, er enghraifft PlayStation.

Soniodd pennaeth Sony, y Cymro Howard Stringer, wrth Weinidog Datblygu Economaidd Cymru, Andrew Davies, am y cynlluniau yn ystod ymweliad diweddar ag Efrog Newydd.

Dywedodd y cwmni fod y farchnad Ewropeaidd ar gyfer y cynnyrch yn hollbwysig a'i fod am fuddsoddi mewn systemau robot a gweledol yn ffatri Pen-coed.

PlayStation

Byddai'r gwaith cynnal a chadw'n canolbwyntio'n fwy na dim ar un cynnyrch, PlayStation.

The Sony PlayStation Portable
Cafodd y PlayStation ar gyfer y llaw ei lansio yn gynharach eleni

Gan fod pobl ifanc yn ei ddefnyddio'n dyddiol mae angen mwy o drwsio arno nag nag unrhyw gynnyrch Sony arall.

Bydd angen swyddi peirianyddol arbenigol yn y ffatri.

Pan gafodd radd er anrhydedd ym Mhrifysgol Morgannwg yn gynharach eleni lledawgrymodd Syr Howard y byddai Sony'n buddsoddi ym Mhen-coed.

Mae disgwyl i'r cwmni wneud cyhoeddiad am y buddsoddi yn ystod yr wythnosau nesaf.

Yn y cyfamser, mae ymdrechion yn parhau i ganfod prynwr ar gyfer ffatri Sony ym Mhen-y-bont a'r gwaith yno'n dod i ben "cyn diwedd y flwyddyn ariannol".




HEFYD:
Pennaeth Sony yn amddiffyn toriadau
22 Gorff 05 |  Newyddion
Sony: 650 yn colli gwaith
29 Meh 05 |  Newyddion
Sony: 300 o swyddi'n diflannu
20 Ion 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^