BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 12 Chwefror, 2005, 15:43 GMT
Cymru'n trechu'r Eidalwyr
Jonathan Thomas gafodd cais cynta'r gm

Llwyddodd Cymru i ennill eu gm gyntaf oddi cartref ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Rhufain yn erbyn Yr Eidalwyr ddydd Sadwrn.

Gyda chwe chais dyma ail fuddugoliaeth y crysau coch o'r bron.

Yn dilyn trechu Lloegr yr wythnos diwethaf fe wnaeth Cymru deithio i'r Eidal a chael buddugoliaeth gyfforddus o 38 pwynt i 8.

Y tro diwethaf i dm rygbi Cymru ymweld 'r Stadio Flaminio yn Rhufain ddwy flynedd yn l llwyddodd Yr Eidalwyr i synnu Cymru wrth ennill 30-22.

Mae'r Eidalwyr wedi colli'r ddwy gm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Fe fydd Cymru yn teimlo'n hyderus i fynd i herio'r Ffrancwyr ym Mharis ym mhen pythefnos rwan.

Cafodd Jonathan Thomas, Tom Shanklin, Martyn Williams, Brent Cockbain, Shane Williams a Robert Sidoli geisiau i Gymru a llwyddodd Stephen Jones i drosi pedair.

Dim ond un cais gan Luciano Orquera a chic gosb gafodd yr Eidalwyr.




HEFYD:
Rygbi: Cymru'n trechu Lloegr
06 Chwef 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^