Mae niferoedd y disgyblion yn gostwng yn sylweddol yn ysgolion bach Gwynedd
|
Mae rhybudd y bydd rhaid ad-drefnu addysg yng Ngwynedd oherwydd bod nifer disgyblion yn gostwng yn fawr mewn ysgolion bach.
Yr awgrym mewn adroddiad sy'n cael ei drafod yr wythnos hon yw bod rhaid ystyried cynlluniau fel y gall y cyngor barhau i gynnig gwasanaeth addysg effeithiol.
Dyw'r adroddiad fydd gerbron pwyllgor ddydd Iau ddim yn cyfeirio at ysgolion unigol.
Dogfen bolisi yw hi yn awgrymu dulliau o ddatrys y broblem.
Erbyn 2006 bydd 1,000 yn llai o blant yn ysgolion Gwynedd nag oedd yn 1998.
Mae hynny'n ostyngiad o 12%, gostyngiad sy'n parhau tan 2015.
Mae Cyngor Gwynedd wedi sefydlu gweithgor i ystyried oblygiadau hynny a'r gweithgor wedi casglu nad ydi'r sefyllfa yn gynaladwy.
Ond yn wahanol i awdurdodau eraill mae Gwynedd yn cynnig modelau gwahanol o weithredu ar gyfer ardaloedd gwahanol.
Mae sôn am glystyru ysgolion gydag un prifathro ond nifer o gyrff llywodraethol gwahanol.
Ac mae sôn am ffederaleiddio, un prifathro, un corff llywodraethol, ond nifer o adeiladau mewn gwahanol bentrefi.
Tystiolaeth
Dim ond os na fydd yr un o'r cynlluniau hynny yn bosib y byddai'r cyngor yn ystyried cau ysgol.
Dywedodd Dr Gwynn Jones, Pennaeth Gwasanaeth Ysgolion Gwynedd, mai'r nod "ydi sefydlu consensws ynghylch y ffordd ymlaen yng Ngwynedd".
"Mae'r gweithgor wedi ystyried ystod helaeth o dystiolaeth wrth fynd ati i lunio'r adroddiad ac wedi edrych ar y sefyllfa yng Ngwynedd a thu hwnt," meddai.
"Mae'r adroddiad yn awgrymu fod cydweithio ffurfiol rhwng yr ysgolion yn un ffordd o ymateb ond mae hefyd yn crybwyll rhai posibiliadau eraill.
"Mae hefyd yn cynnwys rhestr o faterion i rai sydd â diddordeb ymateb iddyn nhw ac un o'r rheiny yw'r cyfle i gynnig syniadau ar y ffordd ymlaen."
"Fe alla i sicrhau y bydd y gweithgor yn ystyried pob cynnig a dderbynnir yn ofalus iawn a'r nod yw sefydlu ysgolion gwledig ar sail gadarnach i'r dyfodol ac i'r perwyl hwn fe fyddwn ni'n edrych ar bob opsiwn ymarferol."
Dywedodd fod cyfraniad y penaethiaid wedi bod yn bwysig wrth lunio'r adroddiad.
Cyfnod ymgynghori
"Cychwyn proses sydd yma, dogfen ymgynghorol rydyn ni'n ei ryddhau...mae llawer o waith i'w wneud eto sef cynnal y broses ymgynghori a byddwn ni'n rhoi mwy na digon o amser i hynny ddigwydd.
"Wedi'r cyfnod ymgynghori bydd crynhoi sylwadau cyn wedyn mynd ymlaen a datblygu modelau posib," meddai.
Dywedodd cadeirydd y gweithgor fod yr hyn sy'n cael ei grybwyll yn yr adroddiad yn "bethau cyffrous".
"Ond rydyn ni'n gobeithio eu bod yn ffyrdd o sicrhau dyfodol ein hysgolion bach ni," meddai'r cynghorydd Dai Rees Jones.
Cyfaddefodd ei bod yn bosib na fydd clystyru a ffederaleiddio yn briodol ymhob achos.
"Rhaid bod yn hollol onest ac mae'r adroddiad yn sôn am yr angen i ddatblygu meini prawf penodol er mwyn mesur dyfodol cynaladwyedd ysgolion llai," meddai.
"Dwi'n meddwl y byddwn ni'n edrych ar bob dull a modd posib i gadw cymaint o ysgolion a fedrwn ni'n agored a dwi ddim yn rhagweld llond dwrn o ysgolion yn cau os derbynnir y model o ffederaleiddio."
Mae'r gweithgor wedi casglu tystiolaeth yn eang ac wedi ymgynghori â phrifathrawon a'r undebau.
"Dwi yn cydymdeimlo â'r awdurdod," meddai Neil Foden, cynrychiolydd yr NUT yng Ngwynedd.
Swyddi
"Y peth pwysicaf dwi'n meddwl fel undeb sy'n cynrychioli athrawon yn yr ysgolion ydi ein bod yn sicrhau nad oes neb yn colli eu swyddi yn orfodol.
"Hefyd fel cymdeithas sydd â diddordeb mewn byd addysg fod pa bynnag ddatrysiad y mae'r awdurdod yn ei ddarganfod yn rhesymol i'r cymunedau a'r plant," meddai.
Wedi i'r ddogfen fynd gerbron y pwyllgor ddydd Iau bydd ymgynghori ledled y sir a'r bwriad wedyn ydi cael cyfarfod arbennig o'r cyngor yn Ionawr i gymeradwyo'r ddogfen.
Y cam nesaf fydd edrych ar bob ardal yn ei thro yng ngoleuni'r polisi a'r bwriad ydi gweithredu'r drefn newydd ym Medi'r flwyddyn nesaf.