BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 11 Chwefror, 2005, 16:30 GMT
Sylfaenydd yn arwain cwmni
Malcolm Walker
Malcolm Walker: Dychwelyd at Iceland

Mae sylfaenydd cwmni Iceland yn brif weithredwr bedair blynedd ers iddo adael y cwmni.

Ymddiswyddodd Malcolm Walker ar l i ffigyrau gwerthu'r cwmni leihau ond ailymunodd ddydd Gwener fel aelod o gonsortiwm sydd wedi prynu'r cwmni.

Prynodd y consortiwm o dan arweiniad y cwmni o Wlad yr I, Baugur, Big Food Group yn Rhagfyr 2004 am 326m.

Dywedodd yr arbenigwr Bryan Roberts fod y sector yn wynebu cyfnod ansicr.

Tri deg pum mlynedd yn l cafodd cwmni Iceland ei sefydlu ar l i Mr Walker fuddsoddi 30 mewn siop yng Nghroesoswallt.

Mae pawb yn gobeithio y bydd dychweliad Malcolm yn codi ysbryd a gwella perfformiad
Bryan Roberts, arbenigwr manwerthu

Trodd Mr Walker y cwmni'n fusnes gwerth miliynau ond ymddiswyddodd yn Ionawr 2001 wrth i elw'r cwmni ostwng.

Gobaith Baugur yw y bydd sefyllfa'r Big Food Group yn gwella.

Ond dywedodd Mr Roberts o'r grŵp dadansoddi Planet Retail bod bwriad Baugur i geisio prynu cwmni archfarchnad Somerfield am 1bn "yn fygythiad posib".

Mae dros 750 o siopau Iceland drwy Brydain yn cyflogi 20,000 o bobl.

"Mae pawb yn gobeithio y bydd dychweliad Malcolm Walker yn codi ysbryd a gwella perfformiad," meddai Mr Roberts.

"Ac mae'n debyg mai fo yw un o'r pobl orau i arwain y cwmni."




HEFYD:
Iceland: Dim hawlio arian Guyana
18 Maw 03 |  Newyddion
Iceland yn dal i wneud colledion
09 Hyd 02 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^