Mae rhieni ym pryderu bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried cau 30 ysgol cynradd
|
Cafodd cyfarfod cyntaf fforwm i ddiogelu dyfodol ysgolion cynradd Sir Gâr ei gynnal nos Iau.
Bwriad Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gâr, sy'n cynnwys rhieni, athrawon a chyfeillion, ydy ymgyrchu ar y cyd i warchod dyfodol yr ysgolion.
Roedd nifer o bobl wedi dod at ei gilydd yng Ngharmel, ger Cross Hands, i drafod ymgyrchu i ddiogelu tua 30 o ysgolion cynradd y sir sydd o dan fygythiad wrth i'r cyngor foderneiddio cyfundrefn addysg yr awdurdod.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dweud eu bod yn bwriadu agor 20 ysgol newydd o dan y cynllun £100m ond y byddai rhaid i tua 30 o ysgolion bach gau.
Mae rhieni yn pryderu y byddai cau ysgolion bach cefn gwlad mewn ardaloedd Cymraeg yn bygwth dyfodol yr iaith.
Mae'r cyngor wedi addo cynnal ymgynghoriad llawn gyda phob ysgol fydd dan fygythiad, ond does dim cynlluniau manwl wedi eu datgelu hyd yma.
Fis yn ôl fe ddaeth ymgyrchwyr at ei gilydd ac fe grëwyd y Fforwm a fyddai'n ymgyrchu dros bob un o'r ysgolion sydd o dan fygythiad.
Dywedodd Huw Tudur, llywydd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, aeth i'r cyfarfod, bod eisiau sicrhau beth fyddai'r effaith yma ar athrawon hefyd.
Ychwanegodd bod pryder am effaith y newidiadau ar ysgolion Cymraeg.
"Rydym fel undeb yn pryderu o dan ba amgylchiadau y bydd hyn yn digwydd, yr athrawon yn cael eu diswyddo, yn symud neu yn cael pecyn ymddeoliad cynnar.
"Fel llywydd hefyd dwi'n becso be sy'n digwydd ac yn gofidio am ddyfodol ysgolion Cymraeg y sir."
Cefnogaeth Hermon
Er nad yw'r ymgynghori wedi dechrau eto, dywedodd rhieni nad oedd hi'n rhy gynnar i gychwyn ymgyrchu.
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi rhestr o'r ysgolion fydd yn cael eu trafod gan y sir.
"Dwi ddim yn credu ei bod yn rhy gynnar i drafod," meddai Ioan Hefin, o Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gaerfyrddin a drefnodd y cyfarfod nos Iau.
"Mae'r cyngor yn barod yn dweud bod y cynlluniau yn mynd yn ôl i'w cyfarfod yn 2001.
Nod y rhieni yw cael trafodaeth agored am y cynllun
|
"Mae pethau'n dechrau digwydd a £10m wedi ei wario ar y cynllun ac mae'n rhaid i ni gael y drafodaeth yn agored mewn ffordd sy'n adlewyrchiad teg o'r sefyllfa.
"Mae'n rhy hwyr yn achos rhai ysgolion," ychwanegodd.
Mae'r Fforwm eisoes wedi dechrau gwneud mwy na thrafod strategaeth ymhlith ei gilydd.
Dywedodd y cadeirydd, Tony Stevens, bod llythyrau wedi eu hanfon a bod dwy brotest wedi cael eu cynnal.
Yn y cyfarfod nos Iau roedd 'na gefnogaeth o sir arall hefyd wrth i Cris Tomos annerch y Fforwm.
Mr Tomos sy'n arwain yr ymgyrchu yn erbyn bwriad Cyngor Sir Penfro i gau Ysgol Hermon.
Fe wnaeth ymdrech Ysgol Hermon fethu yn yr Uchel Lys i gadw'u drysau ar agor.
Ond mae Mr Tomos yn credu y bydd y gronfa gafodd ei sefydlu yno yn gallu cynorthwyo ymdrechion pobl Sir Gâr.
"Yn yr Uchel Lys roeddem yn herio'r dull ddefnyddiwyd ond gobeithio y bydd modd ail edrych ar y polisi nawr wrth weld yr ymgyrch yn cryfhau yn Sir Gâr ac y bydd yn arwain at newid polisi."