BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 16 Medi 2005, 17:09 GMT 18:09 UK
Heddluoedd i ddiflannu?
Dyfed-Powys a Gwent
Gwent: Yn ystyried y cynnwys 'yn ofalus'
Gallai dau o heddluoedd Cymru ddiflannu am fod adroddiad ar gyfer y Swyddfa Gartref yn dweud fod angen ad-drefnu.

Mae'n bosib y bydd Heddlu Dyfed-Powys a Gwent yn cyfuno fel y bydd heddlu'n gwasanaethu'r gogledd a'r de.

Arolygiaeth yr Heddlu sy'n argymell mewn adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Gwener y dylai isafswm o 4,000 o blismyn fod ym mhob llu yng Nghymru a Lloegr.

Rhaid i heddluoedd llai gyfuno, medd yr adroddiad, fel y byddan nhw'n berthnasol i anghenion modern a bydd penaethiaid heddlu a Llywodraeth Prydain yn ystyried yr argymhellion.

"Byddwn ni ac awdurdod yr heddlu yn astudio cynnwys yr adroddiad ac yn aros am sylwadau'r Ysgrifennydd Cartref," meddai prif gwnstabl Gwent Mike Tonge.

"Mae'n debyg y bydd Charles Clarke yn rhoi ei ymateb mewn seminar Diwygio Heddlu yn Llundain ddydd Llun.

"Ar hyn o bryd byddai'n anghywir i ni ddyfalu am gynnwys yr adroddiad."

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, cadeirydd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, y bydden nhw'n erbyn newid ffiniau.

"Mae'r drefn bresennol yn effeithiol iawn a'r ffigurau datrys troseddau ymhlith yr ucha ym Mhrydain.

"Y ffordd ymlaen yw trefniadau gweithredu lluoedd gerllaw. Eisoes mae ein heddlu'n cydweithio gogledd-orllewin Lloegr."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^