BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 10 Chwefror 2005, 12:40 GMT
Cerdd Bwyd Od
Dyma gerdd Carys Jones, Bwyd Od, yn llawn. Ymddangosodd yn y gyfrol Poeth gan y Lolfa ac fe'i gomisiynwyd gan Gydbwyllgor Addysg Cymru. Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf gan Wasg Carreg Gwalch.

Mae'n strwythr eironig am brofiad plentyn mewn cymdeithas aml-ethnig, meddai'r awdur, Carys Jones.

Bwyd Od

Dwi ddim yn hoffi bwydydd od
o wledydd pell y byd,
Mae'n well gen i sbageti gwyn
a bolognaise yn bryd.

A phwy 'sa'n bwyta malwod tew
neu goesau llyffant bach?
Fe gaf i coq au vin o Spar
a sudd pinafal iach.

Bydd Dad yn iwsio chopsticks pren
i fwyta chow mein porc,
Bydd bwyd 'di mynd ar hyd y llawr
cyn iddo godi'i fforc!

Mae Mam yn hoffi Bombay Duck -
mae'n dweud bod naan yn neis,
Ond gwell gen i gig oen Cymreig
mewn cyri gyda reis.

Rhowch fwyd Cymreig i mi bob tro -
ni chewch chi ddim byd gwell;
Pwy sydd angen bwyta'n od
fel yn y gwledydd pell?

Carys Jones 1999
Hawlfraint: Gwasg Carreg Gwalch




HEFYD
Urdd: Ffrae y cerddi'n corddi
10 Chwef 05 |  Newyddion
Cerdd yn 'anaddas' i blant
09 Chwef 05 |  Newyddion
Cerdd Chei di ddim odli
09 Chwef 05 |  Newyddion
Ymateb i gerddi'r Urdd
10 Chwef 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^