BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 10 Chwefror, 2005, 10:26 GMT
Ymateb i gerddi'r Urdd
Logo'r Urdd

Mae ffrae wedi datblygu am gerddi yng nghystadlaethau llefaru Eisteddfod yr Urdd eleni.

Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd wedi penderfynu na fydd yn cymryd rhan yn unrhyw un o gystadlaethau'r eisteddfod eleni gan honni fod cynnwys un darn llefaru, Bwyd Od gan Carys Jones yn "ansensitif ac yn ymylu ar fod yn hiliol".

Mae prifathrawes mewn ysgol arall wedi cwyno fod cerdd arall, Chei di ddim odli gan Myrddin ap Dafydd, yn cynnwys geiriau "anaddas" ar gyfer plant o dan 12 oed.

Ond mae'r Urdd yn dweud bod y cerddi wedi eu camddehongli, ac na fydd y cystadlaethau'n newid.

Dyma'r ymateb sydd wedi ein cyrraedd am y ddwy gerdd:

Mae'r gerdd yn dda, yn codi cwestiynau sy'n bwysig does dim rhaid cytuno safbwynt y bardd, ond dwi ddim yn credu bod hi'n addas i gael ei llefaru ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd. Dyw hi ddim yn adlewyrchu profiad plant aml-ethnig ac yn dweud wrth y byd bod gan yr Urdd diffyg diddordeb mewn plant sy ddim yn dod o gefndir traddodiadol Cymreig. Trueni.
Susan Page, Sgiwen, Castell-nedd - Port talbot

Da iawn Myrddin ap Dafydd. Mae'n hen bryd bod rhywun yn dweud ei ddweud yn ddi-flewyn-ar-dafod. Efallai y dylai fod wedi bod yn fwy sensitif am y peth, fodd bynnag.
Alun, Abertawe

Er mawr siom i ni fel rhieni, ac i'm plant, ni fydd fy merch, sydd ym mlwyddyn 6, ac wedi cystadlu yn frwd yn Eisteddfod Yr Urdd er pan ym mlwyddyn 1, yn cystadlu eleni yng nghystadleuath y llefaru unigol, gan fy mod yn credu fod y darn gosod yn gwbl anaddas - ydych chi'n meddwl y dylid rhoi cerdd sydd llun rhywun yn pwyntio gwn at un o'n prifeirdd yn addas i blant dan 12 oed? Nid wyf yn cytuno "thn" y gerdd!
Aldwyth Pari, Bangor Gwynedd

Mae Emma Walsh yn iawn i wrthod dysgu'r gerdd hon i blant aml-ethnig. Mae'r bardd yn iawn i geisio esbonio bod ein plant ni yn bwyta bwydydd tramor bob dydd ac yn derbyn eu bod yn 'Gymreig'. Ond i'r plentyn aml-ethnig, sut mae'r sefyllfa hon yn gallu bod yn od, gan ei fod yn bwyta'r bwydydd hyn bob dydd ac yn hollol ymwybodol fod y bwyd yn dod o wlad enedigol ei deulu, h.y. Yr India, Pacistan, Bangladesh ac Irac, ac yn y blaen! I'r plentyn aml-ethnig fydd yn gorfod sefyll ar lwyfan, ac yn esgus bod yn berson o Gymru sy'n ddall i ddylanwadau bwydydd tramor, yn hollol 'bizarre'! Nid yw'r Urdd wedi edrych ar y gerdd o safbwynt y perfformydd. Mae'r gerdd yn siwtio'r person gwyn, ond i'r plant o dras ethnig mae'n tynnu sarhad ar eu gwybodaeth gyffredinol! Ble mae'r eironi nawr? Mae'n ddiddorol hefyd sylwi fod cefnogwyr i safbwynt yr Urdd i gyd yn dod o'r gogledd a'r sawl sy'n cefnogi safbwynt Emma Walsh yn byw a bod ac yn gweithio ymysg pobl ethnig yn y de.
Sarah Davies, Caerdydd

Mae hi'n deud cyfrolau am Gymru fod cerddi sydd wedi eu hanelu at blant bach yn medru cael eu cam-dallt gan oedolion yn eu hoed a'u hamser. Sut mae disgwyl i blant ddysgu dim byd os ydi cysyniadau megis "eironi" a "cyd-destun hanesyddol" hwnt i ddeallusrwydd eu hathrawon?
Dyfrig Jones, Gerlan, Gwynedd

Mae'n warth llwyr fod Yr Urdd yn cynnwys y fath cerddi yn eu cystadlaethau ac yn disgwyl i athrawon i'w cyflwyno a'u hesbonio i blant. Mae yna ddigonedd o gerddi Cymraeg o safon y gallent eu defnyddio, ond na, mae'n siŵr fod yr Urdd am fod yn "trendi" yn cynnwys cerddi ag ambell i reg neu sy'n debyg o dramgwyddo pawb a phopeth. Druan o blant Cymru. Mae'n siŵr bod Syr Ifan yn troi yn ei fedd!
Gwyneth P. Mitchell, Birmingham, Canolbarth Lloegr

Er mwyn annog plant ifanc i ddal ati i gystadlu yn yr Eisteddfod mae'n rhaid cael cerddi hwyliog gyda elfen o hiwmor ynddi. Dwi'n sicr bod plant sydd tua 12oed sydd wedi bod yn cystadlu yn flynyddol ers yn ifanc iawn yn dechrau colli mynadd! Felly dwi'n meddwl bod y gerdd 'Chei di ddim odli' gan Myrddin ap Dafydd yn addas iawn ar gyfer y gystadleuaeth, yn union beth sydd ei angen i gynnal diddordeb plant ifanc Cymru.
Lleucu Gruffydd, Tremadog, Gwynedd

Mae'n anhygoel fod yr holl ddadlau yn mynd ymlaen am gerddi mor wych. Tybed oedd yr athrawon wedi darllen a deall cefndir cerdd Myrddin ap Dafydd? Tybed beth ydy eu gwybodaeth nhw am eu cenedl/iaith? Edrych ymlaen i glywed y cerddi yma.
Lis Jones, y Gogledd Ddwyrain

Hollol anaddas i blant mor ieuainc. 'Does gan y cefndir hanesyddol ddim i'w wneud 'r cwyno; anaddasrwydd yr iaith ar gyfer plant mor ieuainc sy'n peri pryder. Mae'r bardd a'r Urdd yn dangos nam aruthrol o ran synnwyr cyffredin a chrebwyll. 'Faux pas' arall gan y criw clebran Cymraeg.
Edward Glyn Jones, Caernarfon

Efallai bod Mrs Williams yn credu eu bod yn byw yn 30au'r ganrif ddiwethaf? Mae'n eironig iawn bod cerdd am ormes a sensoriaeth yn esgor ar fath o sensoriaeth.
Alan Gwynant, Caerffili.

Am lol o gŵyn. Pa blentyn dan ddeuddeg sydd ddim yn gyfarwydd 'r gair 'tin'? Yn wir pan oeddwn i yn yr ysgol gynradd roedd yr athrawon yn defnyddio'r gair yn rheolaidd o flaen y dosbarth fel rhan o'r bygythiad "os nad wyt ti'n bihafio gei di chwip din"
Alwyn ap Huw, Conwy

Does dim o'i le ar y gerdd. Fel cyn brifathro ysgol gynradd clywais waeth ar iard yr ysgol ac mae plant sy'n dilyn pl-droed wedi gweld a chlywed llawer gwaeth beth bynnag eu bywyd beunyddiol. Rydan ni'n arfer y term 'tin dros ben' mewn addysg gorfforol.
Gwynne Pierce, Llanbedr

Am botes maip o ddadl. Rhai pobl ofn i'w plant ddweud 'tin', ond yn gadael iddyn nhw wrando ar Pink ac Eminem mae'n siwr. Eraill ofn i'w plant a phlant y Saeson drws nesa' wybod beth yw gwir hanes ein cenedl. Mae hyn yn debyg iawn i'r sensoriaeth oedd yma yn y cyfnod mae Myrddin yn ei gyfeirio ato.
John Puw, Llanrwst

Mae hon yn un o'r dadleuon mwyaf anhygoel o wirion i mi eu clywed erioed. Mae'n dangos yn glir bod "cywirdeb gwleidyddol" wedi mynd allan o bob rheolaeth. Be ydi problem pobol cherddi sy'n adlewyrchu ieithwedd a byd pobol go-iawn?
Guto Dafydd, Trefor

Ysgrifennaf i fynegi fy syndod a'm siom innau, fel mam a hyfforddwraig i blant sydd fel arfer yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn yr adran llefaru, at y dewis annoeth ar gyfer y rhai 10-12 oed eleni.

O'r myrdd gyfrolau bendigedig o farddoniaeth sydd ar gael i blant yr oed yma.....anodd deall pam fod y panel canolog wedi dewis cerdd allan o sioe a ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer oedolion!

Mae'r ffaith i'r plant y byddaf yn eu hyfforddi benderfynu ohonynt eu hunain nad oeddent am gystadlu eleni, oherwydd y gerdd, yn ddigon o brawf i mi fod yr Urdd wedi gwneud cam gwag wrth ddewis y gerdd hon eleni.
Delyth Wiliams, Bangor Gwynedd

Rwy'n siwr bod y rhan fwyaf o blant yn gwybod (ac yn dweud) y gair "Tin". Mae'n bwysig i blant Saesneg eu hiaith ei ddysgu e. Efallai fod yr athrawon yn ofni ei dweud e.
Philip Anderson, Cwmbrn, Gwent

Doedd 'na ddim cwyno ynglŷn 'r ymadrodd "fy mhlentyn gwyn" hefyd? Fyddai ddim yn well i'r bobl yma lawr yng Nghaerdydd dreulio'u hamser yn dysgu'r iaith yn iawn nag yn ymosod ar yr Urdd bob cyfle gn nhw? Lol sy'n tanlinellu'r gwahaniaeth rhwng y brifddinas a'r genedl unwaith yn rhagor.
Gwen Angharad Jones, Aberystwyth

Dwi'n cytuno'n llwyr Sin Eirian, does dim modd plesio pawb. Ond i fod yn hollol onest dwi ddim yn gallu gweld beth yw'r broblem o gwbl, maent yn gerddi difyr a syml sy'n mynd i ddenu cystadleuwyr. Yr Urdd yw un o'r mudiadau mwyaf celfyddydol gewch chi yng Nghymru, a bydden i'n hoffi meddwl y byddai athrawon Caerdydd am iddo lwyddo yn y ddinas yn hytrach na chreu ffws a ffwdan ddinod. Darllen beth sydd gan y beirdd i'w ddweud yw'r ateb, wedi'r cyfan pwy all ddehongli'r gerdd yn well na nhw.
Catrin Sion, Caerdydd

Trist iawn yw gweld pobl ym myd addysg yn ymateb mor gibddall i'r dewis o gerddi yn Eisteddfod yr Urdd. Beth bynnag fo cynnwys unrhyw gerdd, gan gynnwys cerddi fel y rhain sydd wedi llwyddo i godi gwrychyn rhai pobl, onid yw'r cerddi'n rhoi cyfle i addysgwyr drafod pynciau megis hiliaeth a thrwy hynny addysgu eu disgyblion. Mae ymgais i osgoi deunydd o'r fath yn ymylu ar sensoriaeth, a phrin fod hynny o les i neb. Hefyd, onid yw'n wych fod barddoniaeth yn dal i ennyn y fath ymateb!
Gareth Wood, Trelewis, Merthyr Tudful

Anodd iawn gen i goelio fod Myrddin ap Dafydd mewn unrhyw ffordd yn hiliol. Roeddwn i'n dehongli ''Fy mhlentyn gwyn'' fel disgrifiad o blentyn diniwed, di-nam. Dim cyfeiriad at liw croen ydyw, ac mae hynny yn cael ei wneud yn berffaith amlwg o ddarllen y darn mewn ffordd resymol. Fel plentyn pe byddwn i'n cael cais i adrodd y darn, mi fuaswn wrth fy modd, a dwi'n siwr fod llawer yr un fath. Cywirdeb Politicaidd wedi mynd yn rhemp ydi hyn!
Nia, Pwllheli

Mae'r Rhestr Testunau wedi ei chyhoeddi ers misoedd. Mae'n rhy hwyr cwyno ym mis Ionawr a phlant eisoes wedi dysgu'r darn.
Alwyn Jones, Bae Colwyn, Sir Conwy

Nid hiliol ydy'r gerdd gan Myrddin ap Dafydd, dim ond golwg ysgafn, ond eto dreiddiol, ar hanes ein gwlad. Beth sydd o'i le gyda hynny? Mae'n debyg mai gwraidd y broblem fan yma ydy diffyg ymwybyddiaeth pobol, o bob cefndir, o hanes ein gwlad. Boed hwn yn gyfle i godi ymwybyddiaeth am y modd i bu i'r Cymry gael eu his-raddio dros y canrifoedd.
Rhys Llwyd, Aberystwyth

Pa ddrygioni a all ddeillio o ddefnyddio'r gair "tin" ar lwyfan yr Eisteddfod? Onid oes yna ddigonedd o drafferthion treisgar ac anwaraidd yn bodoli yn y byd sydd ohoni yn barod, heb i ni ddechrau ymbalfalu ymysg ein gilydd ar y fath bwnc hwn? Onid pwrpas yr Eisteddfod yw cael pobl ifanc y wlad i ddod at ei gilydd i gael hwyl, i gystadlu a chadw'r iaith yn fyw? O ddifri calon, derbyniwch beth sydd wedi ei roi a symudwch ymlaen heb "dindroi" ar fater mor hurt hwn!
Mr Jones, Pwllheli




Enw
Eich cyfeiriad e bost
Tref a Sir
Eich sylwadau

Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^