Sefydlwyd y mudiad ar Ynys Môn yn 1915
|
Mae rôl allweddol Ynys Môn yn hanes Sefydliad y Merched ym Mhrydain yn cael ei dathlu dros y penwythnos.
Mae disgwyl i gannoedd o aelodau deithio i Lanfairpwllgwyngyll i ddathlu 90 mlynedd ers sefydlu'r mudiad.
Bydd cyfle i'r aelodau gael golwg ar eitemau o'r cyfnod a bydd coeden yn cael ei phlannu i nodi'r garreg filltir.
Cafodd y tair cangen cyntaf o'r sefydliad eu ffurfio yn 1915 yng ngogledd Cymru.
Dywedodd Sally Mabey, swyddog y wasg ar gyfer Ffederasiwn Morgannwg, y bydd 46 o aelodau o'r de yn teithio i Ynys Môn ar gyfer y dathliadau.
"Dydi cangen Llanfairpwll ddim yn cyfarfod yn yr adeilad gwreiddiol, yr hen Doll-dy, ond mae yno arddangosfa ac rydym yn cael mynd yno i'w weld," meddai.
"Fe fyddwn hefyd yn cael bod yn dyst i blanu'r goeden a chael taith gerdded."
Aelodau
Dros Gymru a Lloegr mae 'na 800 o ganghenau o'r Sefydliad ac mae Mrs Mabey yn awyddus i nodi ei fod yn llawer mwy na "gwneud jam a chanu Jerwsalem".
Er nad ydi'r mudiad yn fudiad gwleidyddol na chrefyddol mae'n lobio'r senedd ar faterion y mae'r aelodau yn teimlo'n gryf amdanyn nhw.
Eleni yng nghynhadledd flynyddol y mudiad yn Llundain fe drafodwyd problemau amgylcheddol.
Bydd cynhadledd flynyddol y Sefydliad yn 2006 yn cael ei chynnal yn Arena Rhyngwladol Caerdydd.
Mae gan y mudiad dros 215,000 o aelodau ac fe gychwynnodd 90 mlynedd yn ôl ar ôl i ddau berson, John Nugent Harries a Madge Watt, gyfarfod.
Roedd y ddau yn credu mai'r mudiad yma oedd ei angen ar gyfer adfywio cymunedau cefn gwlad er mwyn cynhyrchu mwy o fwyd ar gyfer Prydain oedd yng nghanol y rhyfel.
Cafodd Ms Watt ei gwneud yn drefnydd gan y Gymdeithas Amgylcheddol ac yn dilyn cynhadledd ym Mangor cafodd wahoddiad i gyfarfod gwragedd Llanfairpwll.
Mae'r Sefydliad yn falch o'i hanes a'i hanes o ymgyrchu, un o'i brif amcanion.
Er bod yr aelodau wedi newid nid felly strategaeth a bwriad y Sefydliad.
Yn ddiweddar cafodd grwpiau newydd eu sefydlu ym Mhontypridd a'r Eglwys Newydd ac ar Fedi 21 bydd y cyfarfod cyntaf o gangen Rhiwbeina.