BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 9 Chwefror, 2005, 14:05 GMT
Cerdd yn 'anaddas' i blant
Myrddin ap Dafydd

Mae prifathrawes wedi cwyno fod cerdd ar gyfer cystadleuaeth Eisteddfod yr Urdd eleni yn cynnwys geiriau "anaddas" ar gyfer plant o dan 12 oed.

Dywedodd undeb athrawon NUT Cymru ei fod wedi derbyn cwynion.

Cerdd y prifardd Myrddin ap Dafydd "Chei di ddim odli" fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer y gystadleuaeth lefaru.

Mae'r prifardd wedi dweud bod angen egluro cefndir a syniadaeth tu l i'r gerdd wrth blant.

Dywedodd pennaeth Ysgol y Mynydd Bychan, Caerdydd, Ann Williams, fod y gerdd "yn anaddas" am ei bod yn cynnwys y gair "tin".

'Anweddus'

Ni fyddai'n dysgu'r gerdd i'r plant, meddai, a byddai'n cwyno wrth yr Urdd.

"Mae rhannau ohoni'n eitha anweddus," meddai.

Y penillion:
Chei di ddim deud y dylid dal brenin
Y Saeson a'i roi mewn cawl cennin
A'i ferwi, a'i ferwi
Nes fod o'n drewi:
Achos chei di ddim odli.

Chei di ddim deud fod yr Arglwydd Grey
Yn fochyn barus a'i bod hi'n O C
Llenwi'i din efo paraffn
A'i losgi:
Achos chei di ddim odli.

"Dwi ddim yn cytuno o gwbl y dylai plentyn 10 neu 11 oed ddysgu llefaru geiriau anweddus fel yma.

"Mae plant yn gofyn be' mae hwn yn ei feddwl.

"Ac mae llawer o'n plant yn blant ail iaith ac rydym yn gorfod cyfieithu hwn i'r Saesneg ac egluro be' mae o'n feddwl."

Dywedodd y prifardd nad oedd yn derbyn fod y gerdd, sy'n sn am ormes y Cymry cyn gwrthryfel Owain Glyndŵr, yn anaddas.

Cafodd y gerdd ei chyhoeddi yn y gyfrol Syched am Sycharth a chafodd ei chomisiynu pan oedd yn Fardd Plant Cymru 2000.

'Dim hawliau'

"Fyswn i'n gofyn i bawb sy'n cyflwyno'r gerdd i'r plant ddweud y stori sydd y tu l iddi.

"Stori, a dweud y gwir, ydy hi o gyfnod Owain Glyndŵr.

"Ers 100 mlynedd cyn Glyndŵr roedd y cestyll a'r trefi caerog yng Nghymru wedi bod yn gormesu ar y Cymry."

Roedd llawer o ddeddfau cosb yn erbyn y Cymry, meddai, er enghraifft dim hawl prynu tŷ, dim hawl gan y Cymry i ddal swydd na hawl i gefnogi'r bardd.

Dwi'n annog pobol i wrando ar sylwadau Myrddin am y gerdd
Sin Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd

"Dyna'r allwedd i'r gerdd: chewch chi ddim odli, chewch chi ddim protestio, ddim canu, ddim canu cerddi yn erbyn y gormes yna.

"Roeddwn i'n teimlo fod odli a'r nacd ar odli a barddoniaeth yn rhywbeth y byddai plant yn ei ddeall.

"Mae llawer iawn o'r gerdd yn troi o gwmpas odli a chael hwyl efo odli ond, yn waelodol, cerdd ydy hi yn erbyn y deddfau hiliol ac mae rhai haneswyr yn dweud mai dyma'r deddfau mwy hiliol a basiwyd gan unrhyw lywodraeth yn y byd erioed.

"Felly mae hi'n gerdd gwrth-hiliol."

Drysu rhieni

"Yn bersonol, dwi'n credu ei bod yn gerdd wych, yn gerdd ddychanol, cerdd wleidyddol ac yn gerdd sy'n cynhyrfu'r dyfroedd," meddai Rhys Williams o undeb NUT Cymru..

Sin Eirian
Sin Eirian: Byth am blesio pawb

"Rydym yn derbyn y cwynion ac yn eu trosglwyddo.

"Mae'n rhaid bod yn sensitif er tegwch i'r gerdd. Ydy hi'n addas ar gyfer plant dan 12 oed? Dydyn ni ddim yn siwr."

Dywedodd Sin Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, mai llond llaw o gwynion yr oedden nhw wedi eu derbyn.

"Mae hon yn gerdd hanesyddol, yn cyflwyno talp o hanes Cymru mewn ffordd ddychanol a digri, yn gerdd tafod-yn-y-boch gan y Prifardd Myrddin ap Dafydd pan oedd yn gwisgo mantell Bardd Plant Cymru.

"Dwi wedi gwrando ar y cwynion a galla i eich sicrhau fy mod i wedi siarad sawl hyfforddwr llefaru brofiadol sydd yn fyw na hapus i ddysgu'r gerdd i'w disgyblion.

"Dydan ni byth mynd i blesio pawb."

Dylai pawb edrych ar hanes a chyd-destun y gerdd, meddai. "Dwi'n annog pobol i wrando ar sylwadau Myrddin am y gerdd."

  • Beth ydy'ch barn chi? Anfonwch eich sylwadau atom drwy ddefnyddio'r ffurflen ar y dde.


    Dyma'r ymateb sydd wedi cyrraedd:

    Hollol anaddas i blant mor ieuainc. 'Does gan y cefndir hanesyddol ddim i'w wneud 'r cwyno; anaddasrwydd yr iaith ar gyfer plant mor ieuainc sy'n peri pryder. Mae'r bardd a'r Urdd yn dangos nam aruthrol o ran synnwyr cyffredin a chrebwyll. 'Faux pas' arall gan y criw clebran Cymraeg.
    Edward Glyn Jones, Caernarfon

    "Dwi yn y broses o ddysgu'r darn i blant a dwi'n meddwl ei fod yn wych. Wrth gwrs mae'n eithaf anodd ond mae'n bwysig i roi amser i ddehongli'r gerdd cyn ei beirniadu. Un o'r pethau gorau am 'Chei di ddim odli' ydi'r ffaith ei fod yn rhoi cyfle i'r plentyn ddatblygu fel perfformiwr trwy geisio deall testun dwys.
    Linda Jones o Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

    "Does 'na ddim problem gyda'r darn yma. Mae'n ddarn ymestynnol sy'n rhoi cymaint i blant ifanc sef addysg am hanes Cymru a chyfle i ddatblygu eu sgiliau dehongli."
    Dyfrig Davies o Landeilo, aelod o bwyllgor llenyddiaeth yr Urdd sydd hefyd yn hyfforddi ei ferch i lefaru.

    Efallai bod Mrs Williams yn credu eu bod yn byw yn 30au'r ganrif ddiwethaf? Mae'n eironig iawn bod cerdd am ormes a sensoriaeth yn esgor ar fath o sensoriaeth.
    Alan Gwynant, Caerffili.

    Am lol o gŵyn. Pa blentyn dan ddeuddeg sydd ddim yn gyfarwydd 'r gair 'tin'? Yn wir pan oeddwn i yn yr ysgol gynradd roedd yr athrawon yn defnyddio'r gair yn rheolaidd o flaen y dosbarth fel rhan o'r bygythiad "os nad wyt ti'n bihafio gei di chwip din"
    Alwyn ap Huw, Conwy

    Does dim o'i le ar y gerdd. Fel cyn brifathro ysgol gynradd clywais waeth ar iard yr ysgol ac mae plant sy'n dilyn pl-droed wedi gweld a chlywed llawer gwaeth beth bynnag eu bywyd beunyddiol. Rydan ni'n arfer y term 'tin dros ben' mewn addysg gorfforol.
    Gwynne Pierce, Llanbedr

    Am botes maip o ddadl. Rhai pobl ofn i'w plant ddweud 'tin', ond yn gadael iddyn nhw wrando ar Pink ac Eminem mae'n siwr. Eraill ofn i'w plant a phlant y Saeson drws nesa' wybod beth yw gwir hanes ein cenedl. Mae hyn yn debyg iawn i'r sensoriaeth oedd yma yn y cyfnod mae Myrddin yn ei gyfeirio ato. Dysgwch yr hanes eich hun, ac yna trosglwyddwch o i'ch plant. Dyma ydi gwir hanes ein cenedl ac nid enwa'r brenhinoedd o wahanol genhedloedd fu'n teyrnasu arnom yn enw Lloegr ers 1282.
    John Puw, Llanrwst




  • Enw
    Eich cyfeiriad e bost
    Tref a Sir
    Eich sylwadau

    Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
    Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.


    CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^