Mae Ofcom yn arolygu'r diwydiant cyfathrebu
|
Mae Ofcom, rheoleiddiwr y diwydiant cyfathrebu, wedi cyhoeddi argymhellion am ddyfodol darlledu yng Nghymru.
Dywed yr adroddiad fod angen i'r berthynas rhwng S4C a'r BBC fod yn gliriach yn y tymor byr.
Yn y tymor hir mae Ofcom yn ffafrio'r posibilrwydd o drwydded 10-mlynedd i ddarparu'r holl gyflenwad rhaglenni i S4C.
Mae Ofcom wedi cyfeirio at dri dewis.
Yr un cynta yw'r drefn bresennol yn fras er y bydd agweddau ar y berthynas rhwng S4C a'r BBC yn cael eu hadolygu.
Mae Ofcom wedi dweud y byddai'n dymuno "mwy o dryloywder" yn y berthynas, gan gynnwys adolygiad posib o'r trefniadau ariannol a'r cytundeb sy'n golygu fod rhaid i BBC gyflenwi 10 awr o raglenni'r wythnos.
Yr ail yw bod S4C yn uno â BBC Cymru.
Y trydydd yw cadw Awdurdod S4C i reoli'r sianel ond gosod darlledu Cymraeg i dendar gan greu "cyhoeddwr" rhaglenni gwasanaeth cyhoeddus.
Er mwyn "cynnal a datblygu ei rôl fel llwyfan i ragoriaeth greadigol a sbardun economaidd," meddai S4C, mae'n ffafrio model sy'n esblygu ar gyfer y dyfodol, sy'n cyfuno elfennau o opsiwn cyntaf a thrydydd opsiwn Ofcom.
Dywedodd S4C y byddai'r opsiwn o amlyncu S4C yn gyfangwbl i mewn i'r BBC yn cael effeithio'n andwyol ar blwraliaeth yng Nghymru.
A dywedodd na fyddai'n briodol i deledu Cymraeg yn ei grynswth gael ei ddarparu gan un endid masnachol lle byddai buddiannau'r budd-dalwyr yn tra arglwyddiaethu, fel mae Opsiwn 3 Ofcom yn rhagweld.
Bydd ITV Cymru'n darparu mwy o raglenni rhanbarthnol na Lloegr
|
"Mae plwraliaeth llais ym myd darlledu Cymraeg yn hanfodol," meddai cadeirydd S4C, Elan Closs Stephens.
"Yr hyn sydd ei angen yw cwmnïau cryf, creadigol, yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, ac yn y farchnad ehangach, wedi eu goruchwylio gan awdurdod annibynnol, sy'n canolbwyntio ar anghenion siaradwyr Cymraeg."
Argymell y mae adroddiad Ofcom ostyngiad yn nifer yr oriau y bydd rhaid i ITV Cymru eu cynhyrchu ond llai o ostyngiad nag yr oedd rhai wedi ei broffwydo.
Comisiynau
Ymhlith yr argymhellion y mae mwy o raglenni'r rhwydwaith, 50%, i gael eu cynhyrchu y tu allan i Lundain, y ddinas lle mae'r mwyafrif yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd.
Bydd hyn yn rhoi cyfle i ITV Cymru ennill comisynau newydd ar gyfer rhaglenni newydd a bydd hyn yn arwain at fwy o swyddi.
A bydd y sefyllfa yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn wahanol i ranbarthau ITV yn Lloegr.
Yn y rhanbarthau bydd lleiafswm o raglenni y tu hwnt i newyddion yn gostwng o dair awr i awr a hanner yr wythnos a bydd hyn yn gostwng i hanner awr pan fydd y cyhoedd yn newid i wasanaeth digidol llawn o fewn y 10 mlynedd nesaf yn Lloegr.
Yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon bydd yr oriau y tu hwnt i newyddion yn bedair awr a hyn yn gostwng i dair awr pan ddaw gwasanaeth digidol llawn.
"Mae'r adroddiad hwn yn cynnig gobaith i ddarlledu yng Nghymru ac yn helpu sicrhau y byddwn ni'n dal i elwa ar rychwant eang o raglenni teledu o diddordeb i wylwyr Cymru," meddai Ysgrifennydd Cymru.
"Gan fod ITV Cymru'n ddarlledwr hollbwysig mae'n rhaid iddo gael dyfodol sicr," meddai Peter Hain.
"Rwy'n falch fod Ofcom yn cydnabod fod Cymru'n genedl nid yn rhanbarth."
Ar hyn o bryd mae Cymru ymhell o flaen gweddill Prydain o ran y nifer y tai sy'n derbyn gwasanaeth digidol.
Hwn yw dechrau'r drafodaeth ar ddarlledu Cymraeg a bydd yr argymhellion terfynol ar ddyfodol S4C yn cael eu cyhoeddi ym Mai neu Fehefin.