BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 12 Medi 2005, 13:09 GMT 14:09 UK
Baner Glyndwr yn cipio'r castell
Baner Owain Glyndwr
Fe fydd y faner yn chwifio uwchben Caerdydd am wythnos

Mae baner Owain Glyndŵr yn chwifio uwchben Castell Caerdydd yr wythnos hon o ddydd Llun ymlaen.

Cytunodd Cyngor Sir Caerdydd y byddai'r faner yn chwifio uwchben y castell ddydd Gwener sef Diwrnod Owain Glyndŵr.

Hwn yw'r tro cyntaf i'r faner gael ei chwifio yno ers i filwyr Glyndŵr ruthro at y borth orllewinol a gorchfygu'r castell yn 1404.

Penderfynodd y cyngor wedi sawl cais i chwifio'r faner felen a choch.

Mae Diwrnod Owain Glyndŵr, ar Fedi 16, yn coffŠu'r diwrnod yn 1400 y cyhoeddodd Glyndŵr ei fod yn Dywysog Cymru cyn sefydlu ei Senedd ym Machynlleth.

Roedd y faner, sy'n cynnwys pedwar llew, yn arfbais i Glyndŵr ac yn Faner Frenhinol Cymru.

Cofio'r gwrthryfel

Mae gwaith adnewyddu y castell wedi effeithio ar y trefniadau.

Dywedodd Kevin Burt, rheolwr Castell Caerdydd, y byddai'r faner yn chwifio uwchben y wal ddwyreiniol.

"Bydd y faner yn chwifio am wythnos o ddydd Llun tan ddydd Gwener. Yn anffodus, oherwydd gwaith ar y ganolfan groeso, dyw'r polion arferol ddim ar gael."

Dywedodd y cynghorydd Nigel Howells, sydd ‚ chyfrifoldeb am ddiwylliant ar fwrdd gweithredol Cyngor Sir Caerdydd, ei fod yn falch o'r penderfyniad.

"Er mwyn coffŠu dros 600 o flynyddoedd ers gwrthryfel Glyndŵr dwi'n falch bod y faner yn cael ei chwifio uwchben y castell.

"Mae Owain yn un o ffigyrau amlyca hanes Cymru ac mae'n bwysig ein bod yn ei gofio."




HEFYD:
Glyndwr:'Y frwydr ar ben'
10 Mai 05 |  Newyddion
Cyhoeddi dathliadau Glyndwr
04 Ion 04 |  Newyddion
Baneri'n gwerthu dros y byd
28 Medi 04 |  Newyddion
Dadorchuddio 'cleddyf Glyndwr'
06 Mai 04 |  Newyddion
Darganfod rhan o gastell Glyndwr
29 Ebr 03 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^