BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 1 Medi 2005, 15:40 GMT 16:40 UK
Ffrae iaith: Ffordd ymlaen?
Agoriad Siop Hefo Siswrn
Bu agor y siop yn rhan o ddatblygiad siopa £25m
Mae cwmni'n gobeithio y bydd ei siop fawr newydd ym Mangor yn batrwm i rai eraill yng Nghymru.

Enillodd Marks and Spencer frwydr â Chyngor Gwynedd ac ni fu rhaid iddo gyfieithu'r brand 'Simply Food'.

Ond ar ôl ail-feddwl defnyddiodd wasanaeth di-dâl Bwrdd yr Iaith Gymraeg a chyfieithu arwyddion.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd ein siopau eraill yn dilyn yr un drefn," meddai James Bolton, rheolwr lawnsio siopau'r cwmni.

Yn wreiddiol, nid oedd y cwmni wedi rhoi arwydd 'Simply Food' ar flaen y siop.

Y gobaith yw y bydd hyn (cyfieithu arwyddion) yn atgyfnerthu pwysigrwydd y iaith
Huw Tegid, Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Mae Llinell Gyswllt Bwrdd yr Iaith yn darparu gwasanaeth am ddim i gwmniau a phobl busnes sydd angen arwyddion wedi'u cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg.

Dywedodd Huw Tegid o'r Llinell Gyswllt fod Bwrdd yr Iaith am i fwy o bobl wybod am y gwasanaeth.

"Mae'n bosib ei fod yn 'rhwystr' i gwmniau sy'n cychwyn am eu bod yn poeni am gost cyfieithu. Ond mae'r gwasanaeth am ddim.

"Y gobaith yw y bydd hyn (cyfieithu arwyddion) yn atgyfnerthu pwysigrwydd yr iaith, ac y daw dwyieithrwydd yn rhan anhepgor o'u gwaith yn y dyfodol.

'Esgus gwael'

"Y ddadl yn wreiddiol oedd na ddylai Marks orfod cael arwyddion dwyieithog am nad oedd siopau eraill ym Mangor ag arwyddion dwyieithog.

"Roedd yn esgus gwael a'r gobaith yw y bydd y drefn yn y siop newydd yn arwain at arwyddion dwyieithog mewn cwmniau eraill yn y ddinas."

Yn y siop newydd, agorodd ddydd Iau, mae 52 o swyddi llawn a rhan amser.

Roedd oedi wrth godi'r adeilad am fod llifogydd yn yr islawr.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^