BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 24 Ionawr, 2005, 21:31 GMT
Dros 300m i gyn-lowyr
Glowyr
Mae'r llywodraeth yn paratoi system i gyflymu'r broses o dalu iawndal

Mae dros 300m wedi ei dalu i gyn lowyr a'u teuluoedd yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf, medd ffigurau a gyhoeddwyd ddydd Llun.

Mae saith etholaeth yn ne ddwyrain Cymru yn y 25 rhanbarth ym Mhrydain i dderbyn y cyfanswm mwyaf mewn iawndal i lowyr sydd wedi dioddef afiechydon ysgyfaint ac afiechydon eraill.

Yr etholaethau hyn yw Merthyr Tudful a Rhymni, Ogwr, Y Rhondda, Cwm Cynon, Caerffili, Islwyn a Blaenau Gwent.

Hyd yma mae 42,500 o o hawliau iawndal wedi eu talu i deuluoedd cymoedd y de.

Croeaswodd llefarydd ar ran grŵp monitro'r ceisiadau Cymreig hyn ond dywedodd fod "ffordd bell i fynd".

Ar hyd a lled Prydain mae'r llywodraeth wedi talu 2.3bn mewn iawndal hyd yma, meddai'r Gweinidog Diwydiant, Nigel Griffiths.

"Mae'r ffigyrau yma'n dangos yr effaith mae'r taliadau wedi ei gael ar economi cymunedau'r meysydd glo," meddai.

Yr etholaeth yng Nghymru i dderbyn y taliadau iawndal uchaf hyd yma yw Merthyr Tudful a Rhymni, gyda 52.8m, ac yna Ogwr gyda 51.3m.

"Mae hyn yn dangos bod pethau'n gwella, ond mae na ffordd bell i ni fynd eto," meddai Bleddyn Hancock, o undeb NACODS ac aelod o'r gŵp monitro ceisiadau.

"Un o'r problemau oedd perswadio'r llywodraeth i weithredu ar frys," ychwanegodd.




HEFYD:
Diwrnol olaf i lowyr wneud cais
31 Maw 04 |  Newyddion
Y frwydr sy'n parhau
15 Maw 04 |  Newyddion
Rhybudd AS i gyn-lowyr
26 Maw 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^