BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 31 Awst 2005, 16:08 GMT 17:08 UK
Lloches anifeiliaid mewn trafferth
Ceffyl yn y noddfa
Drum yw un o'r 28 ceffyl sy'n cael ei warchod
Mae canolfan anifeiliaid mewn perygl o gau am nad oes digon o arian.

Ddydd Gwener bydd ymddiriedolwyr Freshfields yn Nasareth, rhwng Caernarfon a Phorthmadog, yn cyfarfod i drafod dyfodol y ganolfan.

Mae'r ganolfan yn gwarchod 80 o gathod, 28 o geffylau a merlod, dau fochyn a chwningod.

Dywedodd Lesley Tarleton o'r ganolfan fod yr incwm wythnosol o £500 ond yn cyfateb i hanner y gost.

"Mae gennym ni ddwy siop elusen ym Mhorthmadog a Chaernarfon ac mae digon o elw i brynu bwyd i'r anifeiliaid.

"Ond mae gwir angen mwy o bres arnon ni i fedru delio ag argyfyngau a'r holl gostau ychwanegol fel biliau ffarier ...."
Rhaid i ni ddewis naill ai aros fan hyn neu werthu a symud i rywle arall
Lesley Tarleton

"Dydw i ddim am roi'r ffidil yn y to ond mae'n mynd yn anodd ... yn ymdrech go iawn."

Dywedodd fod angen mwy o wirfoddolwyr.

"Rhaid i ni ddewis naill ai aros fan hyn neu werthu a symud i rywle arall yn ngogledd Cymru," meddai Ms Tarleton a sefydlodd Freshfields 30 mlynedd yn ol.

Bum mlynedd yn ôl rhoddodd cwpwl oedd wedi rhedeg gwasanaeth achub cathod y safle i'r elusen.

"Rydan ni wedi ymdrechu'n fawr i gadw'r ganolfan i fynd ond dyw'r sefyllfa ddim yn gwella."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^