Syr Ifan ab Owen Edwards gynhyrchodd y ffilm
|
Bydd plac yn cael ei osod i goffáu hen ffilm y mae rhan ohoni ar goll o hyd.
Comisiwn Sgrîn Cymru sy'n gosod y plac yr wythnos hon ar Lwybr Ffilm a Theledu Gogledd Cymru.
Syr Ifan ab Owen Edwards, sefydlydd Urdd Gobaith Cymru, ffilmiodd Y Chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog yn 1935.
Dywedodd Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru, sy'n adfer y ffilm, fod y rîl olaf ar goll.
Hon oedd y ffilm gyntaf yn y Gymraeg i gynnwys sain.
"Rîl bedair, y rhan olaf, sydd ar goll," meddai Undeg Jones o Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru.
"Mae'r sain i gyd ganddon ni ar ddisg ar wahân.
"Roedd sain ar y ffilm cyn i'r actorion fynd i Stiwdio Ealing yn Llundain i ail-recordio'r sain ar ddisgiau gwahanol.
"Os gall rhywun ddod o hyd i'r bedwaredd rîl, bydden yn ddiolchgar iawn."
Ar rîl saith modfedd o ddiamedr ac ar ffilm 16 milimedr y cafodd Y Chwarelwr ei ffilmio, meddai.
"Oherwydd treigl amser mae'n siwr mai dyna pam fod y ffilm wedi mynd ar goll.
'Aruthrol'
"Rydym wrthi'n adnewyddu'r ffilm ac yn gwybod ei bod wedi teithio dipyn o amgylch Cymru yn y 1930au."
Dywedodd nad oedd Syr Ifan yn "broffesiynol" o ran gwneud ffilmiau ond ei fod yn awyddus i ffilmio.
"Daeth o a John Ellis Williams, prifathro ysgol, cynhyrchydd dramâu ac awdur ym Mlaenau Ffestiniog, at ei gilydd a phenderfynu ysgrifennu stori am deulu oedd eisiau gyrru eu mab i goleg yn lle mynd i'r chwarel.
"Yn 1935 aethpwyd ati i wneud y ffilm a oedd yn costio £2,000, swm aruthrol ar y pryd."
Prynodd Mr Williams lyfrau am sut i wneud ffilmiau.
1935
Cafodd y ffilm 75-munud o hyd ei dangos gyntaf yn Sefydliad y Merched ym Mlaenau Ffestiniog yn Hydref 1935.
Dydd Gwener y bydd Comisiwn Sgrîn Cymru yn gosod plac ar Lwybr Ffilm a Theledu Gogledd Cymru.
Eisoes mae chwe phlac yn y gogledd, gan gynnwys un yn Nhrawsfynydd ar gyfer y ffilm Hedd Wyn.
Bydd y plac newydd yn chwarel Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog lle cafodd y ffilm ei saethu.
Dywedodd Richard Coombs o'r Comisiwn eu bod yn awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un oedd yn gwybod am y ffilm.
"Fe fyddai'n wych gweld pobl yno a oedd yn cofio'r ffilmio 70 mlynedd yn ôl.
"Mae'n bwysig fod ffilm mor hanesyddol â hon yn cael ei lle ar y llwybr ffilm."
Rhif ffôn yr Archif yw 01970 632828 a rhif ffôn y Comisiwn yw 01970 627186.